Morfydd Llwyn Owen

cyfansoddwr a aned yn 1891
(Ailgyfeiriad o Morfudd Llwyn Owen)

Cantores, pianydd a chyfansoddwraig oedd Morfydd Llwyn Owen (1 Hydref 18917 Medi 1918). Cafodd ei geni yn Nhrefforest, Sir Forgannwg.

Morfydd Llwyn Owen
Ganwyd1 Hydref 1891 Edit this on Wikidata
Trefforest Edit this on Wikidata
Bu farw7 Medi 1918 Edit this on Wikidata
o clorofform Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcanwr, cyfansoddwr Edit this on Wikidata
Arddullopera Edit this on Wikidata
Math o laismezzo-soprano Edit this on Wikidata
PriodErnest Jones Edit this on Wikidata

Dyddiau cynnar golygu

Roedd yn ferch gerddorol yn gynnar iawn yn ei hoes a phan oedd yn 16 oed dechreuodd astudio'r piano a chyfansoddi gyda David Evans. Mynychodd Ysgol Ganolradd Pontypridd cyn cael ei derbyn i Brifysgol Caerdydd, gan ennill ysgoloriaeth gerddorol "Caradog" 1909-12 a graddio mewn cerddoriaeth yn 1912.[1]

Symudodd i Lundain i astudio dan Frederick Corder yn yr Academi Frenhinol ar ennill ysgoloriaeth Goring Thomas, 1913-7 gan ennill clod a nifer o wobrwyon am ganu a chyfansoddi.

Priododd y seiciatrydd Ernest Jones ar 6 Chwefror 1917, sef bywgraffydd swyddogol a chyfaill Sigmund Freud.[2]

Cerddoriaeth golygu

Ymysg ei chyfansoddiadau ceir gweithiau i gerddorfau, corau, unawdau piano a cheir ymdeimlad personol drwy lawer o'i gwaith.

Seiliodd lawer o'i gwaith ar ganeuon gwerin a llenyddiaeth Cymru. Ymhlith ei chyfansoddiadau mwyaf nodedig y mae Gweddi Pechadur, To our Lady of Sorrows a Slumber Song of the Madonna ac yn enghreifftiau o'i hathrylith; mae'r tair, a'r dôn gynulleidfaol 'William' wedi ennill eu plwyf yng Nghymru ers blynyddoedd.

Teledu golygu

Bu pennod ar hanes bywyd Morfydd Llwyn Owen ar S4C wedi ei chyflwyno gan Ffion Hague fel rhan o'r gyfres, Mamwlad ar ddarlledwyd yn 2016.[3] Gwnaed rhaglen drama ddogfen arni yn 2003.[4] Cafwyd rhaglen arall arni yn 2018.[5]

Cyfeiriadau golygu

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd 6 Chwefror 2017.
  2. Hafina Clwyd, Rhywbeth Bob Dydd (Gwasg Carreg Gwalch, 2008)
  3. https://www.bbc.co.uk/programmes/p03l91h9
  4. https://www.bbc.co.uk/programmes/p06jf0cg
  5. https://twitter.com/s4c/status/1073559846308454400

Dolenni allanol golygu