Ffion Hague
Darlledwraig, awdur a chyn-was sifil yw Ffion Hague (ganwyd 1968) a ddaeth yn adnabyddus fel gwraig y gwleidydd ceidwadol William Hague. Ganwyd Ffion Jenkins yng Nghaerdydd ac mae'n siarad Cymraeg. Daeth i'r amlwg yn gyntaf pan cafodd ei dewis i ddysgu'r Gymraeg i'w darpar ŵr pan oedd yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Mae'n chwaer iau i Manon Williams, sy'n ferch i gyn-drefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol Emyr Jenkins.[1][2]
Ffion Hague | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 21 Chwefror 1968 ![]() Caerdydd ![]() |
Man preswyl | Richmond ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyflwynydd radio, cofiannydd ![]() |
Priod | William Hague ![]() |
Bywyd cynnar golygu
Mynychodd Ysgol Gyfun Glantaf, lle'r oedd yn perthyn i Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru a'r Côr Cenedlaethol Ieuenctid. Wedi gadael yr ysgol aeth yn ei blaen i astudio Saesneg yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, ac ymunodd â'r Gwasanaeth Sifil ar ôl graddio.[2]
Bywyd personol golygu
Cyfarfu William Hague yn 1995 pan ddaeth yn ysgrifennydd preifat yn y Swyddfa Gymreig. Oherwydd yr embaras a achoswyd gan yr ysgrifennydd Cymru blaenorol (John Redwood) a fethodd ganu'r Anthem Genedlaethol, penderfynodd ei olynydd, Hague, ddechrau dysgu geiriau'r Anthem. Dewiswyd Ffion i wneud hynny, a phriododd y ddau ym 1997 ac ar hyn o bryd["pan?"] maent yn byw ym Mhowys.[3]
Darlledwraig ac awdures golygu
Mae Ffion wedi cyhoeddi bywgraffiad o David Lloyd George o dan y teitl Y Boen a Braint. a chyflwynodd gyfres o raglenni ar gyfer S4C: Mamwlad (2012),Tri Lle (2010) a Dwy Wraig Lloyd George (2009). Mae hi hefyd wedi cyflwyno rhaglenni ar gyfer BBC Radio 3 a BBC Radio 4.[4]
Gweler hefyd golygu
- Frances Elizabeth Morgan; addysgwraig a meddyg cyntaf Ewrop
Cyfeiriadau golygu
- ↑ Archipelago, World. "Ffion Hague". HarperCollins UK. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-12-20. Cyrchwyd 2016-12-08.
- ↑ 2.0 2.1 "BBC News | UK | Ffion Jenkins: a passionate Welsh patriot". news.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2016-12-08.
- ↑ "My Yorkshire: Ffion Hague". www.yorkshirepost.co.uk. Cyrchwyd 2016-12-08.
- ↑ "S4C Factual - Mamwlad". www.s4c.cymru. Cyrchwyd 2016-12-08.