Sefydliad astudiaethau hanes morwrol Cymru yw Morol, a sefydlwyd yn 2005.[1] Ymhlith ei hamcanion mae: hybu diddordeb yn hanes morwrol Cymru, hybu ymchwil mewn hanes morwrol yng Nghymru a chefnogi achub a chadw ffynonellau sy’n ymwneud â phob agwedd ar hanes morwrol Cymru a’i phobl. Maent yn argraffu monograffau, erthyglau, traethodau, llyfryddiaethau, dogfennau gwreiddiol, adroddiadau cynadleddau ar amryw agweddau ar hanes morwrol Cymru.

Y Llywydd Anrhydeddus cyntaf oedd John Geraint Jenkins (1929-2009) a'r Noddwr presennol yw Dafydd Elis Thomas a'r Cadeirydd ydw Dr. Mark D. Matthews, Abertawe. Cyhoeddant hefyd Ddarlith Goffa Aled Eames bob dwy flynedd.

Cyhoeddiadau golygu

  • Terry Davies, Borth: A Maritime History (Gwasg Carreg Gwalch, 2009) ISBN 9781845241537 £8.50*
  • Aled Eames, Ships and Seamen of Anglesey 1558-1918 - Studies in Local and Maritime History (Gwasg Carreg Gwalch) ISBN 9781845273521 £18
  • Aled Eames & Emrys Hughes ac/and John Alexander, Porthmadog Ships (Gwasg Carreg Gwalch, 2009) ISBN 9781845271411 £18
  • Robin Evans, Ffarwel i’r Grassholm Gribog: Moelfre a’r Môr (Gwasg Carreg Gwalch, 2009) ISBN 9781845272456 £12
  • Robin Evans, Merched y Môr (Gwasg Carreg Gwalch, 2013) ISBN 9781845274528 £12
  • Robin Evans (gol.), Pysgotwyr Cymru a'r Môr (Gwasg Carreg Gwalch, 2011) ISBN 9781845273293 £12
  • Bryan D. Hope, A Commodious Yard: The Story of William Thomas & Sons, Shipbuilders of Amlwch (Gwasg Carreg Gwalch, 2005), 9781845270216 £14.50*
  • J. Geraint Jenkins, Traddodiad y Môr (Gwasg Carreg Gwalch, 2004) ISBN 9780863819322 £7*
  • J Geraint Jenkins, Welsh Ships and Sailing Men (Gwasg Carreg Gwalch, 2006) ISBN 0-86381-962-1 £8.95
  • David Thomas, Hen Longau Sir Gaernarfon (Gwasg Carreg Gwalch, 2007) ISBN 1-84527-076-2 £12

ac ar y gweill:

  • Robin Evans, Moelfre:Maritime Village
  • R. Evans (ed.), Welsh Fishing Ports: A Miscellany
  • Ken Lloyd Gruffydd, Maritime Wales in the Middle Ages

Darlith Goffa golygu

Hyd yma cafwyn tair darlith: 1. Darlith Goffa Aled Eames 2005: Dr David Jenkins, Llafurwyr y Môr.

2. Darlith Goffa Aled Eames 2007: Dr Adrian Jarvis - Perthynas gymhleth: Gogledd Cymru, Lerpwl a’r Môr.

3. Darlith Goffa Aled Eames 2009: Twm Elias, Smyglwyr Cymru

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan swyddogol Morol Archifwyd 2013-10-27 yn y Peiriant Wayback.; adalwyd 9 Awst 2013.