Dafydd Elis-Thomas

gwleidydd Cymreig
(Ailgyfeiriad oddi wrth Dafydd Elis Thomas)

Gwleidydd Cymreig yw Dafydd Elis-Thomas, Barwn Elis-Thomas neu'r Arglwydd Elis-Thomas (ganwyd 18 Hydref 1946). Mae'n aelod o Cyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig ac yn Aelod Cynulliad (AC) dros Ddwyfor Meirionnydd ar ran Plaid Cymru (1974-2016); yn 2016 gadawodd y Blaid gan ddweud y byddai'n sefyll fel ymgeisydd annibynnol yn yr etholiad nesaf.[1] Bu'n Llefarydd y Cynulliad o'r cychwyn yn 1999 hyd at 2011. Mae'n Llywydd Prifysgol Bangor ac yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi. Mae'n Llywydd Anrhydeddus Searchlight Cymru yn ogystal.

Y Gwir Anrhydeddus
Arglwydd Elis-Thomas
AS
Dafydd Elis-Thomas 2011.jpg
Gweinidog dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon
Deiliad
Cychwyn y swydd
3 Tachwedd 2017
Prif Weinidog Carwyn Jones
Mark Drakeford
Rhagflaenwyd gan Ken Skates
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn ei swydd
12 Mai 1999 – 11 Mai 2011
Rhagflaenwyd gan Swydd newydd
Dilynwyd gan Rosemary Butler
Aelod o Senedd Cymru
dros Ddwyfor Meirionnydd
Meirionnydd Nant Conwy (1999–2007)
Deiliad
Cychwyn y swydd
6 Mai 1999
Rhagflaenwyd gan Swydd newydd
Mwyafrif

8,868 (40.1%)

Cynrychiolaeth Senedd y DU
Aelod o Dŷ'r Arglwyddi
Lords Temporal
Deiliad
Cychwyn y swydd
18 Medi 1992
Arglwydd am Oes
Aelod Seneddol
dros Feirionnydd Nant Conwy
Yn ei swydd
9 Mehefin 1983 – 9 Ebrill 1992
Rhagflaenwyd gan Creuwyd yr etholaeth
Dilynwyd gan Elfyn Llwyd
Aelod Seneddol
dros Feirionnydd
Yn ei swydd
28 Chwefror 1974 – 9 Mehefin 1983
Rhagflaenwyd gan William Edwards
Dilynwyd gan

Diddymwyd yr etholaeth

Manylion personol
Ganwyd Dafydd Elis Thomas
(1946-10-18) 18 Hydref 1946 (73 oed)
Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin
Plaid wleidyddol Annibynnol
Cysylltiadau gwleidyddol
arall
Plaid Cymru (1970–2016)
Priod Elen Williams
Mair Parry Jones (presennol)
Plant 3

GyrfaGolygu

Ganwyd Dafydd Elis-Thomas yng Nghaerfyrddin, yn fab i weinidog yn Eglwys Bresbyteraidd Cymru, a chafodd ei fagu yn Llandysul a Llanrwst.[2][3] Bu'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor rhwng 1964 – 1970 lle cafodd ddoethuriaeth mewn Athroniaeth ac Astudiaethau Llenyddol.

Fe’i etholwyd yn Aelod Seneddol yn Chwefror 1974, yr un adeg â Dafydd Wigley, pan etholwyd dau aelod seneddol Plaid Cymru, ac yn dilyn etholiad mis Hydref, dri aelod seneddol am y tro cyntaf. Ar y cychwyn, ef oedd yr aelod ieuengaf yn y Tŷ Cyffredin. Gadawodd y lle hwnnw ym 1983 ac ym 1992 fe’i henwebwyd i fod yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi, fel y Barwn Elis-Thomas.

Yn Hydref 2016, pum mis ar ôl ei ail-ethol, penderfynodd adael Plaid Cymru oherwydd yn ei eiriau ef "nad oes unrhyw fwriad gan Plaid i chwarae rhan fwy cadarnhaol yn y Cynulliad". Dywedodd cangen Dwyfor Meirionnydd o Blaid Cymru y dylai galw is-etholiad ond dywedodd Elis-Thomas nad oedd ganddo unrhyw fwriad i wneud hynny.

Eisteddodd fel aelod annibynnol ers hynny. Ar 3 Tachwedd 2017 ymunodd a chabinet Llywodraeth Cymru gan gymryd swydd oedd wedi bod yn wag am flwyddyn sef y Gweinidog dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon.

Cyhoeddodd ar raglen Dewi Llwyd ar BBC Radio Cymru 12 Ebrill 2020 na fydd yn sefyll yn Etholiad nesaf y Senedd yn 2021. Ar ôl ystyriaeth hir dywedodd na fydd yn cystadlu yn Dwyfor Meirionnydd yn 2021, ond dywedodd fod yna lawer o ffyrdd eraill o wasanaethu'r cymdeithas. Dywedodd ar y rhaglen "Mae 'na fwy i fod yn ddinesydd da na bod yn wleidydd etholedig am fwy na 40 mlynedd.

"Gan 'mod i yn cyrraedd, neu wedi cyrraedd, y cyfnod yna o gynrychioli Meirionydd beth bynnag - onid yn gwbl gyson ar hyd y cyfnod yna - am fwy na deugain mlynedd, fydda fo ddim yn gwneud llawer o synnwyr i sefyll etholiad gan wybod y byddwn i'n 78 erbyn diwedd y Cynulliad nesa."[4][5]


PersonolGolygu

Ym 1970 priododd Elen M. Williams ac mae ganddynt dri mab. Wedi ysgariad, bu'n bartner i Marjorie Thompson, cadeirydd CND. Ym 1993 priododd Mair Parry Jones ac maent yn byw yn Llandaf, Caerdydd pan fo'n gweithio yng Nghaerdydd ac ym Betws-y-Coed fel arall. Yng nghofnodion swyddogol Sant Steffan cyfeirir ato fel "Dafydd Elis Elis-Thomas".[6]

ProffesiynolGolygu

Dyma rai o'i swyddi proffesiynol:

LlenorGolygu

Mae'n awdur ar nifer o lyfrau gan gynnwys Cyfansoddi Ewrop - Helaethu Ffiniau.

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
William Edwards
Aelod Seneddol dros Feirionnydd
19741983
Olynydd:
dilewyd yr etholaeth
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Seneddol dros Feirionnydd Nant Conwy
19831992
Olynydd:
Elfyn Llwyd
Rhagflaenydd:
Bernadette Devlin
Baban y Tŷ
1974
Olynydd:
Hélène Hayman
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Rhagflaenydd:
swydd newydd
Aelod Cynulliad dros Feirionnydd Nant Conwy
19992007
Olynydd:
dilewyd yr etholaeth
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Cynulliad dros Ddwyfor Meirionnydd
2007 – presennol
Olynydd:
deiliad
Seddi'r cynulliad
Rhagflaenydd:
Dim
Llywydd y Cynulliad
19992011
Olynydd:
Rosemary Butler
Swyddi gwleidyddol pleidiol
Rhagflaenydd:
Dafydd Wigley
Llywydd Plaid Cymru
19841991
Olynydd:
Dafydd Wigley

CyfeiriadauGolygu

  1. bbc.co.uk; adalwd 15 Hydref 2016.
  2. "Dafydd Elis-Thomas AM". BBC Democracy Live website. BBC. 2013. Cyrchwyd 3 Mai 2013.
  3. "Dafydd Elis-Thomas AM". Gwefan Plaid Cymru. Plaid Cymru. 2013. Cyrchwyd 3 Mai 2013.
  4. "Dafydd Elis-Thomas ddim am geisio adennill ei sedd". BBC Cymru Fyw. 2020-04-12. Cyrchwyd 2020-04-12.
  5. Rhaglen radio, Dewi Llwyd ar fore Sul. "Dim bwriad i ailsefyll - Aelod Cynulliad Dwyfor Meirionnydd". BBC Sounds - radio Cymru.
  6. London Gazette: no. 53056. p. 15921. 23 Medi 1992.
  7. Manylion bywgraffiadol ar wefan wleidyddol y BBC, 1 Medi 1999; Adalwyd 30 Rhagfyr 2015