Morys Bruce, 4ydd Barwn Aberdâr
Roedd Morys George Lyndhurst Bruce, 4ydd Barwn Aberdâr KBE PC DL (16 Mehefin 1919 - 23 Ionawr 2005) yn wleidydd Ceidwadol Cymreig. O 1999 hyd ei farwolaeth bu'n un o naw deg dau o arglwyddi etifeddol yn Nhŷ'r Arglwyddi.[1][2]
Morys Bruce, 4ydd Barwn Aberdâr | |
---|---|
Ganwyd | 16 Mehefin 1919 Llundain |
Bu farw | 23 Ionawr 2005 Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o Dŷ'r Arglwyddi, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Dirprwy Aelod Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Tad | Clarence Bruce |
Mam | Margaret Bethune Black |
Priod | Maud Helen Sarah Dashwood |
Plant | Alastair Bruce, James Bruce, Henry Adam Francis Bruce, Charles Benjamin Bruce |
Gwobr/au | KBE, Bailiff Grand Cross of the Order of Saint John |
Cefndir
golyguRoedd yn fab hynaf Clarence Bruce, 3ydd Barwn Aberdâr, a Margaret Bethune Black. Olynodd i deitl ei dad ym 1957.[3]
Addysgwyd Bruce yng Ngholeg Winchester a Choleg Newydd, Rhydychen, lle bu'n darllen Gwleidyddiaeth, Athroniaeth ac Economeg.
Gyrfa
golyguWrth i'w cyfnod yn y coleg tynnu at ei derfyn dechreuodd yr Ail Ryfel Byd. Ymrestrodd Bruce gyda'r Gwarchodlu Cymreig. Wedi'r Rhyfel bu'n gweithio ym maes darlledu gyda chwmni J Arthur Rank ac wedyn gyda'r BBC.
Ym 1970, daeth yn Weinidog Gwladol dros yr Adran Iechyd a Nawdd Cymdeithasol; ym 1974, cafodd ei benodi i'r Cyfrin Gyngor a daeth yn Weinidog heb Bortffolio. Rhwng 1976 a 1992, bu'n Cadeirydd Pwyllgorau Tŷ'r Arglwyddi, (Dirprwy Llefarydd Tŷ'r Arglwyddi). Yn 1984, cafodd ei greu yn Farchog Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig.
Ar ôl i Ddeddf Tŷ'r Arglwyddi 1999 atal arglwyddi etifeddol rhag eistedd yn Nhŷ'r Arglwyddi yn rhinwedd eu hachau, daeth Arglwydd Aberdâr yn un o'r naw deg dau o bendefigion etifeddol a etholwyd i aros yn Nhŷ'r Arglwyddi.
Diddordebau
golyguRoedd yr Arglwydd Aberdâr yn hoff iawn o denis brenhinol. Enillodd pencampwriaeth sengl amatur Prydain yn y gamp bedair gwaith rhwng 1953 a 1957, a bu'n bencampwr amatur dwbl bedair gwaith rhwng 1954 a 1961. Bu'n llywydd y Gymdeithas Tenis a Raced o 1972 hyd 2004.
Arglwydd Aberdâr oedd Llywydd Ymddiriedolaeth Gymreig Llundain, sy'n rhedeg Canolfan Gymreig Llundain, o 1959 hyd 1962, ac o 1969 i 1970.[4]
Teulu
golyguYm 1946 priododd Maud Helen Sarah Dashwood, merch Syr John Lindsay Dashwood, 10fed Barwnig, a Helen Moira Eaton. Bu iddynt bedwar o blant:
- Alastair John Lyndhurst Bruce, 5ed Barwn Aberdâr (2 Mai 1947)
- Yr Anrhydeddus James Henry Morys Bruce (tua 28 Rhagfyr 1948)
- Yr Anrhydeddus Henry Adam Francis Bruce (5 Chwefror 1962)
- Yr Anrhydeddus Charles Benjamin Bruce (29 Mai 1965)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Jones, D. L., (2008). BRUCE, MORYS GEORGE LYNDHURST, 4ydd Barwn Aberdâr (1919-2005), gwleidydd a dyn chwaraeon. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 17 Chw 2019, o https://bywgraffiadur.cymru/article/c6-BRUC-LYN-1919
- ↑ December 01). Aberdare, 4th Baron, (Morys George Lyndhurst Bruce) (16 June 1919–23 Jan. 2005). WHO'S WHO & WHO WAS WHO[dolen farw]. Adalwyd 16 Chwef 2019
- ↑ https://www.theguardian.com/news/2005/feb/19/guardianobituaries.politics Guardian Obituaries: Lord Aberdare]] Adalwyd 16 Chwef 2019
- ↑ Cymru Llundain Our Former Presidents Adalwyd 16 Chwef 2019
Rhagflaenydd: Clarence Bruce |
Barwn Aberdâr 1957 – 2005 |
Olynydd: Alastair Bruce |