Bardd a gramadegydd yn yr oes Helenistaidd oedd Moschus (bl. 150 CC) sydd yn nodedig am ei fugeilgerddi chwebannog yn yr iaith Hen Roeg. Yn ôl traddodiad y gwyddoniadur Bysantaidd Suda, Moschus yw'r ail o'r tri bardd bugeiliol, rhwng Theocritus a Bion.

Moschus
Ganwyd2 g CC Edit this on Wikidata
ancient Syracuse Edit this on Wikidata
Bu farw2 g CC Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethancient Syracuse Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Blodeuodd2 g CC Edit this on Wikidata
Adnabyddus amEuropa Edit this on Wikidata

Ganed yn Sirako, Sisili,[1] ac yn Alecsandria astudiodd dan y gramadegydd ac ysgolhaig Homeraidd Aristarchus o Samothrace.[2] Yr unig weithiau ganddo yn sicr sydd yn goroesi yw tri dernyn o'r casgliad eidylaidd Bucolica, y fugeilgerdd gyfan "Eros Drapetês", ac epigram serch sydd yn dychmygu'r duw Eros fel aradwr. Nid oes tystiolaeth o'i waith fel gramadegydd, ac eithrio cyfeiriad gan Athenaeus at waith ar bwnc geirfa Rodaidd gan un o'r enw Moschus.[1]

Priodolir i Moschus, o bosib ar gam, yr arwrgerdd fach (neu epyllion) Europa. Mewn 166 o linellau, yn llawn delweddaeth grotésg ac iaith goch ond arddulliedig, mae'r gerdd hon yn traddodi chwedl y Dywysoges Ewropa o Ffenicia a'i chipio gan y duw Iau yn rhith tarw. Yn hanesyddol priodolir iddo hefyd yr ymgom Megara, a ysgrifennwyd o bosib gan un o'i ddisgyblion, a'r alargerdd Epitaphios Bionos, a briodolir bellach i un o ddisgyblion Eidalaidd Bion.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Moschus. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Ionawr 2021.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Alan H. Griffiths, "Moschus, of Syracuse, hexameter poet", yn Oxford Classical Dictionary (2016). Adalwyd ar 21 Ionawr 2021.