Mosg Mawr Kairouan

Mosg hynaf a phwysicaf yn y Maghreb (Gogledd Affrica) yw Mosg Mawr Kairouan. Mae'n sefyll yng nghornel ogledd-ddwyreiniol y medina (hen ddinas) yn ninas Kairouan, canolbarth Tiwnisia.

Mosg Mawr Kairouan
Mathmosg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolMedina of Kairouan Edit this on Wikidata
SirKairouan Edit this on Wikidata
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Cyfesurynnau35.6814°N 10.1039°E Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethlisted monument of Tunisia, rhan o Safle Treftadaeth y Byd Edit this on Wikidata
Manylion

Fe'i hadnabyddir hefyd fel Mosg Sidi Oqba, er anrhydedd Uqba bin Nafi a sefydlodd Kairouan ac a gododd y mosg gyntaf ar y safle yn y flwyddyn 670. Dinistriwyd yr hen fosg yn gyfangwbl bron ac mae'r rhan fwyaf o'r mosg presennol yn dyddio o gyfnod yr Aghlabiaid (9g).

Fel nifer o fosgiau Tiwnisaidd o'r cyfnod hwnnw, mae'r mosg yn ddigon plaen a llym ei olwg o'r tu allan ond y tu mewn fe'i addurnir yn goeth â mosaics a phileri alabastr.