Mae Mosg Sidna Umar ( Arabeg: مسجد سيدنا عمر‎, sef 'Mosg yr Arglwydd Umar') yn fosg o oes Mamluk a leolir heddiw yn Chwarter Iddewig Hen Ddinas Jerwsalem. Mae'n sefyll wrth ymyl synagog Hurva.

Mosg Sidna Umar
Enghraifft o'r canlynolmosg Edit this on Wikidata
GwladBaner Palesteina Palesteina
Map
GwladwriaethIsrael, Gwladwriaeth Palesteina Edit this on Wikidata
RhanbarthJeriwsalem Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yn 2019 adnewyddwyd y mosg.[1]

 
Lleoliad y mosg, rhwng y chwarteri Armenaidd ac Iddewig, mewn map Arolwg o Balesteeina yn 1936
 
Darlun o'r 19g, yn disgrifio "Meindwr Umar", gan ddangos muezzin yn y balconi yn llafarganu'r alwad i weddi.

Yn ôl yr hanesydd Mujir al-Din, adnewyddwyd y mosg ar ôl 1397, a chasglwyd arian a rhoddwyd tir i’w gynnal.[2] Ysgrifennodd Obadiah Bartenura fod y mosg wedi'i adeiladu gan Iddewon a oedd wedi trosi i Islam.

Yn y Rhyfel Chwe Diwrnod cafodd y minaret ei daro gan snipers a'i adnewyddu ym 1974.[2]

Mae'r meindwr (tyret) yn nodweddiadol o gyfnod Mamluk, gan ymestyn dwy lawr o uchder ac mae balconi ar gyfer y muezzin ar ei ben. Mae rhan uchaf y meindwr yn gul o'i waelod er mwyn sefydlogi'r strwythur.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Yael Friedson (21 November 2011). ""עוד יהיה כאן פיצוץ": בקרוב מסגד בלב הרובע היהודי ("There will be another explosion here": Soon a mosque in the heart of the Jewish Quarter)". Ynet. לפני שנה שיפץ מלך מרוקו את מסגד דיסי (השני משני המסגדים שברובע היהודי), אך התושבים והמנהל הקהילתי הגיעו להסכמות שקטות עם נציגים מתונים בוואקף ולפיהן ייערכו תפילות במקום - ללא קריאות מואזין.
  2. 2.0 2.1 2.2 Burgoyne, Mamluk Jerusalem: An Architectural Study, 1984, p.513