Mosul
Mae Mosul (Arabeg: الموصل al-Mawṣil, Cyrdeg: Mûsil, Syrieg: ܢܝܢܘܐ Nîněwâ, Tyrceg: Musul) yn ddinas yng ngogledd Irac yn agos i'r ffin â Twrci a phrifddinas talaith Ninawa. Saif ar lannau Afon Tigris, sydd â phump o bontydd arni, tua 396 km (250 milltir) i'r gogledd-orllewin o Baghdad. Daw enw'r deunydd lliain mwslin o enw'r ddinas, a oedd yn ganolfan bwysig i'r diwydiant mwslin am ganrifoedd. Cynnyrch arall o bwys hanesyddol yw marmor Mosul.
![]() | |
Math |
dinas, dinas fawr, dinas â miliynau o drigolion ![]() |
---|---|
| |
Poblogaeth |
1,694,000 ![]() |
Cylchfa amser |
UTC+03:00 ![]() |
Gefeilldref/i |
Philadelphia ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Nineveh Governorate ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
180 km² ![]() |
Uwch y môr |
223 metr ![]() |
Cyfesurynnau |
36.37°N 43.12°E ![]() |
![]() | |
Yn 1987, roedd ganddi boblogaeth o 664,221; yr amcangyfrif yn 2002 oedd 1,739,800. Mosul yw trydedd ddinas fwyaf Irac, ar ôl Baghdad a Basra.
O 1534 hyd 1918 bu'n ganolfan masnach bwysig yn yr Ymerodraeth Ottoman.
Mae'n un o brif ganolfannau'r diwydiant olew yn Irac.
Tua 30 km i'r de-ddwyrain o'r ddinas ceir adfeilion dinas hynafol Nimrud, prifddinas Assyria, un o'r safleoedd archaeolegol pwysicaf yn y Dwyrain Canol.