Mae Mount&Blade yn êm gyfrifiadurol chwarae-rôl 3-dimensiwn, penagored, un-chwaraewr yng nghyfnod beta o'i ddatblygiad (0.808 yw'r fersiwn diweddarach), wedi'i greu a'i ddosbarthu gan y datblygwyr Twrcaidd Taleworlds. Mae'r gêm ar gael ar gyfer systemau gweithredu Microsoft Windows 32-bit. Mae gosodiad canoloesol gan Mount&Blade, heb unrhyw nodwedd ffantasi. Mae Mount&Blade yn nodedig oherwydd ei bwyslais ar frwydro ar gefn ceffyl realistig, a oedd yn gyffredin yn ystod y cyfnod hwnnw, ond sydd yn aml yn absennol mewn gemau chwarae-rôl eraill.

Cymeriad golygu

Mae'r chwaraewr yn medru rheoli un cymeriad, sydd yn cael ei greu pan ddechreuwyd gêm newydd ac sydd yn cael dosbarth cymeriad penodol. Mae dosbarth cymeriad yn gwasanaethu fel patrymlun yn unig. Mae pob patrymlun yn wahanol mewn priodoleddau, pwyntiau sgìl a chyfarpar yn unig. Nid oes amodau ar gyfarpar neu ddefnydd sgìl oherwydd eich dosbarth. Mae'r lefel uchaf o sgìl a defnydd o rai o'r cyfarpar wedi'i seilio ar briodoledd perthnasol.

Mae modd newid ymddangosiad y cymeriad yn debyg i'r system sydd yn The Sims. Yn gwella ar hyn yw'r ffaith eich bod chi yn medru newid wyneb neu wallt eich cymeriad ar unrhyw adeg, os yw'n edrych yn od neu'n ddiflas i'r chwaraewr. Mae rhai defnyddwyr wedi newid y "crwyn" (skins) sylfaenol, gan roi opsiynau newydd, fel paent rhyfel. Mae'r fersiynau newydd (.800 ac ymlaen) yn rhoi botwm hap (Randomize), sy'n caniatáu i'r chwaraewr greu wyneb hollol newydd ar hap. Mae'r chwaraewr yn medru cynghreirio â byddinoedd naill ai'r Vaegir neu Swadia, yn hela ysbeilwyr a chnafon yng ngwlad Calradia.

Y Gêm golygu

Mae'r gêm yn gêm benagored, yn debyg i gemau fel Elite neu Darklands. Ar ôl i'r gêm ddechrau, mae chwaraewyr yn rhydd i ddewis datblygiadau eu cymeriadau a newid y rhain trwy gydol y gêm. Mae brwydro yn ddewisol ac yn medru cael ei osgoi mewn llawer o sefyllfaoedd, gan adael i'r chwaraewr ganolbwyntio ar fasnachu os oes angen, er bod llai o bwyntiau profiad yn cael eu hennill drwy'r ffordd yma.

Gellir ffurfio mintai drwy recriwtio cymeriadau cyfrifiadurol unigryw, a elwir yn arwyr neu'n gymdeithion, neu filwyr cyffredin. Mae uchafswm y cymeriadau y gellir recriwtio yn cael ei benderfynu gan briodoleddau carisma ac arweinyddiaeth cymeriad y chwaraewr.

Mae cymeriad y chwaraewr a chymeriadau eraill yn dysgu sgiliau i'w defnyddio yn ystod y gêm. Mae rhai sgiliau yn effeithio'r fintai gyfan.

Dim ond y lefel sylfaenol o filwyr cyffredin sy'n medru cael eu recriwtio o dafarnau. Maent yn medru codi i filwyr mwy pŵerus ac arbenigol trwy gynilo pwyntiau profiad a gellir eu hennill drwy frwydro neu ymarfer. Mae'r chwaraewr yn medru dewis y llwybr y mae pob milwr yn symud ymlaen i.

Nid oes dull i chwarae Mount&Blade dros y rhyngrwyd neu dros rwydwaith, ac nid oes dull wedi ei gynllunio chwaith.

Datblygwyr golygu

Mae Mount&Blade wedi'i ddatblygu a dosbarthu gan TaleWorlds, cwmni datblygu o Dwrci.