Mu Arae e
Mae Mu Arae e yn blaned allheulol sy'n cylchio'r seren Mu Arae. Tua hanner maint Iau, mae'r blaned yma yn cylchio'r seren o bellter o ryw 0.921 Unedau Seryddol (ychydig yn llai na'r pellter rhwng y Ddaear a'r Haul), ac yn ei chylchio hi bob 310.55 o ddyddiau. Gallai lefelau ymbelydredd uwchfioled mae'r blaned yn derbyn oddi wrth ei seren fod yn debyg i'r ddaear, ond mae hi'n rhy agos at y seren i gynnal dŵr hylifol ar ei harwyneb. Mae ei chrynswth yn awgrymu ei bod yn gawr nwy heb unrhyw arwyneb solet.
Math o gyfrwng | planed allheulol |
---|---|
Màs | 7 |
Dyddiad darganfod | 13 Mehefin 2002, 2006, Chwefror 2007 |
Cytser | Ara |
Echreiddiad orbital | 0.079 ±0.06 |
Paralacs (π) | 64.0817 ±0.12 |