Iau
|

Iau

Symbol ♃
Nodweddion orbitol
Pellter cymedrig i'r Haul 5.20336301US
Radiws cymedrig 778,412,010km
Echreiddiad 0.04839266
Parhad orbitol 11b 315d 1.1a
Buanedd cymedrig orbitol 13.0697 km s-1
Gogwydd orbitol 1.30530°
Nifer o loerennau 63
Nodweddion materol
Diamedr cyhydeddol 142984 km
Arwynebedd 6.41×1010km2
Más 1.899×1027 kg
Dwysedd cymedrig 1.33 g cm−3
Disgyrchiant ar yr arwyneb 23.12 m s−2
Parhad cylchdro 9a 55.5m
Gogwydd echel 3.12°
Albedo 0.52
Buanedd dihangfa 59.54 km s−1
Tymheredd ar yr arwyneb:
isafrif cymedrig uchafrif
110K 152K ...
Nodweddion atmosfferig
Gwasgedd atmosfferig 70kPa
Hydrogen ~86%
Heliwm ~14%
Llosgnwy 0.1%
Anwedd dŵr 0.1%
Amonia 0.02%
Ethan 0.0002%
Ffosffin 0.0001%
Hydrogen sylffid <0.0001%

Iau (symbol: ♃) yw planed fwyaf Cysawd yr Haul. Mae'n gawr nwy, a'r mwyaf amlwg hefyd i'w gweld o'r ddaear. Dyma frenin y planedau, y pumed o'r haul, ac mae'n anferth – dros ddwywaith cymaint a'r holl blanedau eraill efo'i gilydd. Gellid ffitio 1,300 planed o faint ein daear ni, fel pys mewn pot jam, o'i mewn.

O ran cyfansoddiad mae'n wahanol i'r 4 planed caregog sydd agosaf i'r haul (Mercher, Gwener, y Ddaear a Mawrth). Iau yw'r cyntaf a'r mwyaf o 4 o blanedau mawrion a ddisgrifir fel y 'cewri nwy' (Iau, Sadwrn, Wranws a Neifion) a gyfansoddir, yn bennaf, o hydrogen, heliwm, dŵr, methan ag amonia.

Mae'n ymddangos bod cnewyllyn eiriasboeth Iau wedi ei amgylchu gan haen drwchus o hydrogen metalaidd ac yna haen hylifog o hydrogen a heliwm. Tro'r hydrogen yn fetelaidd dan ddylanwad pwysedd disgyrchiant enfawr a gwres aruthrol Iau (amcanir bod y cnewyllyn tua 30,000°C). Mewn gwirionedd petai'r blaned ychydig yn fwy byddai'n ddigon i gynnau ymasiad (fusion) niwclear fyddai'n ei throi yn ail haul. Wrth lwc ni ddigwyddodd hynny neu fe fyddai bywyd yn amhosib ar ein daear ni. O amgylch y cyfan ceir atmosffer o nwyon hydrogen a heliwm yn bennaf â chyfansoddion eraill megis dŵr, methan ag amonia yn ffurfio sawl haen o gymylau trwchus lliwgar.

Am fod Iau yn troi ar ei echel bob 9.8 awr, sy'n llawer cyflymach na'r un blaned arall (cyflymder o 28,000 mya) yng nghysawd yr haul, ceir 'tywydd' amlwg iawn – efo gwyntoedd cryfion, hyd at 250 mya ar y cyhydedd, yn rhuthro'n ddi-baid gan roi cyfres o wregysau lliwgar o gymylau terfysglyd yn ymestyn i'r pegynau, lle bydd y gwyntoedd wedi arafu i tua 100mya. Ceir patrymau tonnog hardd ar y ffiniau rhwng y gwregysau – a dim rhyfedd chwaith, oherwydd mae cyfeiriad y gwynt yn newid o un i'r llall gan lifo'n groes i'w gilydd, bob yn ail, yn union fel y gwnânt ar ein daear ni, ond yn llai nerthol o gryn dipyn! Nodwedd amlwg iawn rhwng y cyhydedd a'r pegwn deheuol yw'r 'smotyn coch' enwog. Hyricên enfawr hirgron a pharhaus yw hwn, sydd tua 30,000 milltir o hyd a chymaint a phedair gwaith cymaint a'n daear ni.

Am fod patrymau'r cymylau yn newid yn gyson mae Iau wedi ennyn cryn chwilfrydedd ymysg seryddwyr, astrolegwyr ac artistiaid o bob math. Cyfansoddodd Mozart a Holstsymffoniau, neu rannau ohonynt, i'r blaned a seiliodd yr awdur Arthur C Clarke rai o'i nofelau ffug-wyddonol, e.e. 'Meeting with Medusa' (1972) a '2001, A Space Odessey' (ddaeth hefyd yn ffilm adnabyddus), ar ddigwyddiadau dychmygol yng nghyffiniau'r blaned fawr.

Chwiliedyddion golygu

Pioneer 10 oedd y chwiliedydd gofod cyntaf i ymweld â'r blaned ym 1973, ond roedd ei offerynnau gwyddonol yn gymharol ansoffistigedig, ac roedd rhaid i wyddonwyr aros tan 1978, a chyrhaeddiad Voyager 1 a Voyager 2, tan iddynt dderbyn lluniau a mesuriadau gwell. Yn fwy diweddar, ymwelodd Galileo â'r blaned, yn gwneud mesuriadau gwyddonol o 1995 i 2003.

Erbyn 2010, roedd wyth o chwiliedyddion gofod wedi ymweld ag Iau. Bydd y chwiliedydd NASA Juno y cerbyd nesaf i ymweld â'r blaned. Lawnsiwyd Juno yn 2011; bydd o'n cyrraedd y blaned yn 2015.

Mae cynllun arall ar y gweill i'r Asiantaeth Ofod Ewropeaidd (ESA) anfon chwiliedydd gofod newydd, y Jupiter Icy Moon Explorer, yn y dyfodol er mwyn darganfod mwy am loerennau Iau, yn cynnwys Ganymede, a Ewropa, sydd gan wyneb o iâ. Credir bod yna fôr o ddŵr o dan y wyneb sydd, efallai, yn cynnwys organeddau byw. Mae disgwyl i'r Jupiter Icy Moon Explorer gael ei lansio ym mis Ebrill 2023.

Prif loerennau Iau golygu

Astroleg golygu

Cymera Iau 11.9 mlynedd i gylchdroi rownd yr haul Golyga hynny ei fod, wrth ddilyn llwybr y planedau ar draws y wybren, yn symud yn araf drwy'r cytserau sy'n rhoi inni 12 arwydd y Sidydd yn eu tro, gan gymeryd tua blwyddyn i groesi bob un. Dim rhyfedd felly bod maint a rheoleidd-dra'r blaned Iau yn golygu ei bod yn fawr ei dylanwad mewn cyfundrefnau astrolegol ar draws y byd, e.e. yn astroleg Tsieina cynrychiola gyfraith a threfn ddwyfol sy' yn ei dro yn dylanwadu ar ffawd ac yn rhoi arweiniad i gyfreithwyr daearol.

Chwedloniaeth golygu

Ddwy fil o flynyddoedd cyn Crist yr enw ar y blaned Iau ym mytholeg Mesopotamia oedd Marduk. Ef oedd y duw greawdwr a fu'n gyfrifol am ladd y dduwies Tiamat a'i anghenfilod anhrefn cyn ei hollti'n ddwy ran i wneud y ddaear a'r awyr ac yna defnyddio ei phoer i wneud glaw, gwynt a chymylau. O ganlyniad daeth Marduk yn brif dduw y Mesopotamiaid ac yn gyfrifol yn arbennig am amaethyddiaeth a'r ffrwythlondeb ddeilliai o lawogydd a llifogydd tymhorol yr afonydd.

Ceir adlais gref o stori Marduk yn y fytholeg gynnar am Zeus, prif dduw'r Groegiaid, ddaeth i gynrychioli cyfraith, trefn ac awdurdod. Roedd yr hen Zeus yn enwog iawn am ei anturiaethau rhywiol niferus ac yn gyfrifol am dadogi llu o dduwiau eraill ac arwyr daearol. Dim rhyfedd, felly, i'r pedwar lleuad oedd yn hysbys i seryddwyr, cyn dyddiau telescopau modern, gael eu henwi ar ôl rhai o'i gariadon: Io, Ewropa, Ganymede a Callisto. Gelwir rhain y lleuadau Galileaidd, oherwydd mai Galileo a'u darganfu yn 1610.

Yn dilyn ymweliadau lloerennau megis Galileo yn 1995 ac yn arbennig Cassini yn 2000 cynyddodd niferoedd lleuadau Iau erbyn hyn i dros 60! Canfyddwyd nodweddion arbennig iawn ar wynebau rhai ohonynt ac enwyd un o graterau amlwg Ewropa yn 'Pwyll' ar ôl pendefig Dyfed y Mabinogion.

Cafodd llawer o chwedloniaeth Zeus y Groegiaid ei fabwysiadu a'i addasu ar gyfer Iau y Rhufeiniaid, neu Jupiter Pluvalis – duw y glaw. Cynrychiolai Iau awdurdod, trefn a chyfiawnder ac roedd hefyd yn athronydd, yn rhoi cyngor doeth ac yn athro. Ceir rhywbeth tebyg yn rhai o grefyddau'r dwyrain – enw'r blaned Iau i Hindwiaid yn yr India yw 'Guru', sy'n golygu athro ysbrydol.

Yn y byd Celtaidd y duw gyfatebai agosaf i Iau oedd duw'r awyr, ddeuai mewn sawl ffurf, gyda sawl enw lleol arno. Yn amlycaf, mae'n debyg, oedd Taranis, neu'r Taranwr, a gariai daranfollt yn un llaw ac olwyn yn y llall. Cynrychiolai'r olwyn droad y rhod (y tymhorau) ac roedd hefyd yn symbol o'r haul. Cysylltir duw'r awyr â rhyfel, stormydd a ffrwythlondeb y ddaear.

Fel yn achos duw'r haul ceid perthynas agos rhwng duw'r awyr a'r dderwen. Fe barhaodd hynny mewn llên gwerin tan yn lled ddiweddar. Er enghraifft ceid coel fod y dderwen yn cynnig noddfa, i'r cyfiawn, rhag mellt. Ond nid i'r anghyfiawn – fel y profwyd, yn nhyb rhai, pan laddwyd gan fellten y crogwr fu'n gyfrifol am ddienyddio 200 o 'rebeliaid' yr Iarll Mynwy gondemniwyd gan y Cymro gorfrwdfrydig hwnnw, y Barnwr Jeffreys, wedi'r 'Brawdlys Gwaedlyd' yn 1685. Roedd y crogwr wedi llochesu dan dderwen ar y pryd! Bu farw Jeffreys yn Nhŵr Llundain.

Ond efallai mai'r delweddau grymusaf o'r duw awyr Celtaidd yw'r rheiny gafwyd ar bennau colofnau cerrig anferth yn Ffrainc a de'r Almaen. Yno, mor uchel yn yr awyr a phosib, fe'i portreadir yn carlamu ar draws y wybren ar ei geffyl, efo'i glogyn yn chwyrlïo fel baner o'i ôl. Mae'n dal olwyn neu fellten yn ei law ac o dan garnau ei geffyl ddraig anhrefn neu anghenfil gyda choesau fel seirff. Cynrychiola hyn y frwydr barhaus rhwng yr awyr a'r dyfnder; rhwng bywyd a marwolaeth; da a drwg; goleuni a thywyllwch. Drwy hynny deuwn yn ein holau yn daclus at Marduk y duw Mesapotamaidd a'i frwydr yntau â dreigiau.


Planedau yng Nghysawd yr Haul
 
Mercher
 
Gwener
 
Y Ddaear
 
Mawrth
 
Iau
 
Sadwrn
 
Wranws
 
Neifion
  Eginyn erthygl sydd uchod am seryddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun a sgwennwyd ac a briodolir i Twm Elias ac a uwchlwythwyd ar Wicipedia gan Defnyddiwr:Twm Elias. Cyhoeddwyd y gwaith yn gyntaf yn : Gwyddoniadur Cymru (Gwasg y Brifysgol).