Mudo o fewn y Deyrnas Unedig

Gelwir symudiad poblogaeth o amgylch y Deyrnas Unedig yn fudo o fewn y Deyrnas Unedig. Gall fod nifer o resymau dros y mudo gan gynnwys rhesymau economaidd a chymdeithasol.

Mudo Rhanbarthol O Fewn Y Du

golygu

Mudo Gwledig Trefol

golygu

Rhwng yr 1930au a’r 1980au gwelwyd nifer o bobl yn mudo o’r gogledd a'r gorllewin i dde-ddwyrain gwledydd Prydain i'r brifddinas. Gadawodd nifer o bobl gogledd-ddwyrain Lloegr, canolbarth yr Alban, Gogledd Iwerddon a chanolbarth Cymru oherwydd nifer o ffactorau gwthio

Ffactorau Gwthio

  • Hen dai o ansawdd gwael
  • Defnyddiau crai yn dod i ben (glo, mwyn haearn)
  • Dirywiad yn hen ddiwydiannau (Llongau, Dur, Tecstiliau)
  • Swyddi a chyflogau isel - gwaith llaw yn bennaf
  • Cysylltiadau cludiant a hygyrchedd gwael
  • Amgylchiadau diwydiannol llygredig
  • Dirywiad hen borthladdoedd (Glasgow, Lerpwl)
  • Llai o gyfleusterau diwydiannol
  • Llai o gyfleusterau cymdeithasol a chwaraeon
  • Hinsawdd oerach a gwlypach

Ffactorau Tynnu

  • Tai newydd o ansawdd gwell
  • Twf diwydiant ysgafn newydd
  • Swyddi medrus yn cynnig cyflogau da
  • Cysylltiadau cludiant gwell
  • Llai o ardaloedd llygredig
  • Cysylltiadau cnyddol ag Ewrop
  • Gwell gwasanaethau (Siopau, Ysgolion Ysbytai)
  • Llawer o gyfleusterau diwydiannol
  • Llawer o gyfleusterau cymdeithasol / Chwaraeon
  • Hinsawdd cynhesach a sychach (gwyliau / ymddeol)

Gwrthdrefoli

golygu

Gwrthdrefoli yw’r broses lle mae pobl a gwaith yn symud i ffwrdd o’r dinasoedd a chytrefi mawr i aneddiadau llai. Gwelwyd y broses yma yn ne-ddwyrain Lloegr rhwng 1981–1999. Mae pobl yn gadael y dinasoedd oherwydd ffactorau gwthio dinasoedd.

Ffactorau Tynnu a Gwthio

golygu
  • Cyflogaeth- Wrth i ddiwydiant yn y ddinas ddirywio a phrisau tir yn yr ardaloedd yn cynyddu, symudai’r diwydiannu allan i safleoedd tir glas ar ffiniau'r dinasoedd neu yn aneddiadau llai. Mae’r cynnydd yn niwydiannau ‘troedrydd’ ac uwch dechnoleg yn golygu y gall diwydiannau ddewis eu lleoliad eu hun
  • Tai- Wrth i ansawdd y tai o fewn y dinasoedd ddirywio a'r boblogaeth yn dod yn fwy cyfoethog, symuda’r nifer allan o’r dinasoedd i dai fwy modern efo gardd a garej.
  • Teulu- Wrth i niferoedd y teulu cynyddu, rhaid i deuluoedd symud i dai mwy * Amgylchedd- Mae pobl yn symud allan o’r dre i’r wlad i osgoi sŵn a llygredd. Mae hygyrchedd a cyfarthrebau yn golygu y pobl deithio ymhellach i weithio ac felly gall pobl cymudo o’r wlad i’r ddinas i waith
  • Cymdeithas- Pobl yn symud allan o’r ddinas oherwydd troseddwyr, fandaliaeth a chynydd mewn grwpiau ethnig mewn rhai ardaloedd.
  • Gyrfa - Mae unigolion a'u teuloedd yn symud er mwyn cael well swydd yn ei yrfa dewisiedig.