Munich (ffilm 2005)
Mae Munich (2005) yn ffilm rhannol-ffuglennol am ddial cyfrinachol y llywodraeth Israel ar ôl cyflafan athletwyr Olympaidd Iddewig ym München ym 1972. Fe'u lladdwyd gan wŷr arfog y Black September. Mae'r ffilm yn serennu Eric Bana a chafodd y ffilm ei chynhyrchu a'i chyfarwyddo ar y cyd gyda Steven Spielberg. Ysgrifennwyd y sgript gan Tony Kushner a Eric Roth.
Cyfarwyddwr | Steven Spielberg |
---|---|
Cynhyrchydd | Kathleen Kennedy Steven Spielberg Barry Mendel Colin Wilson |
Ysgrifennwr | Tony Kushner Eric Roth |
Serennu | Eric Bana Daniel Craig Ciarán Hinds Mathieu Kassovitz Hanns Zischler Geoffrey Rush Ayelet Zurer Michael Lonsdale Mathieu Amalric Gila Almagor Moritz Bleibtreu |
Cerddoriaeth | John Williams |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Sinemau'r UDA & DVD Byd-eang (ac eithrio Siapan) Universal Pictures Canada Alliance Atlantis |
Dyddiad rhyddhau | 23 Rhagfyr, 2005 |
Amser rhedeg | 163 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg, Hebraeg, Almaeneg, Eidaleg, Ffrangeg |
Dengys y ffilm sgwad o lofruddion, yn cael ei harwain gan gyn-asiant Mossad (Eric Bana) yn mynd ar drywydd ac yn lladd yr aelodau o Black September a oedd o dan amheuaeth o lofruddio un ar ddeg o athlewyr Israel. Enwebwyd y ffilm am bump o Wobrau'r Academi gan gynnwys y Ffilm Orau.
Mae rhan gyntaf yn ffilm, sy'n dangos yr athletwyr yn cael eu cymryd yn wystlon, yn agos iawn at y digwyddiad hanesyddol. Mae ail hanner y ffilm sy'n dangos ymateb y llywodraeth Iddewig wedi bod yn destun trafod gan feirniaid ffilm a newyddiadurwyr. Cyfeiria Spielberg at ail hanner y ffilm fel "ffuglen hanesyddol", gan ddweud ei fod wedi cael ei ysbrydoli gan weithredoedd Iddewig go iawn sydd bellach yn cael eu galw yn Ymgyrch Digofaint Duw.