Munud
uned o amser
Mae munud (enw gwrywaidd neu fenywaidd) yn uned o amser sy'n hafal i 60 eiliad neu 1/60ed rhan o awr. Dydy munud ddim yn uned ryngwladol safonol (yr SI) yn swyddogol, ond caiff ei derbyn ar y cyd â'r rhestr hon.[1]
Enghraifft o'r canlynol | uned amser, Unedau ychwanegol at yr Unedau SI, uned sy'n deillio o UCUM ![]() |
---|---|
Math | cyfnod o amser ![]() |
Rhan o | awr ![]() |
Yn cynnwys | eiliad ![]() |
![]() |
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/c/cd/La_minute_%28315630347%29.jpg/180px-La_minute_%28315630347%29.jpg)
Y symbol ryngwladol am funud ydy min, o'r Saesneg minute.
Mae'n debyg mai'r Babilioniaid ddechreuodd rhannu awr yn chwe-deg rhan, a'r awr (ac eiliad) yn chwe-deg rhan hefyd gan eu bod yn defnyddio system gyfrif wedi'i seilio ar y rhif 60.
Gall munud, ar lafar, olygu "ychydig bach o amser" heb ffiniau pendant o 60 eiliad e.e. yn y linell enwog gan Waldo Williams "Un funud fach cyn elo'r haul o'r wybren..." mae'r bardd yn golygu ysbaid o amser yn hytrach na'r diffiniad mathemategol.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-10-01. Cyrchwyd 2010-07-31.
- Henry Campbell Black, Black's Law Dictionary, 6ed rhifyn (St. Paul, Minnesota: West Publishing Company, 1991)
- Eric W. Weisstein. "Arc Minute." From MathWorld—A Wolfram