Mur Aurelianus

(Ailgyfeiriad o Mur Aurelian)

Mur amddiffynnol o amgylch dinas Rhufain yw Mur Aurelianus (Lladin: Muri Aureliani). Adeiladwyd y mur rhwng 271 a 280 gan yr ymerawdwr Aurelianus.

Mur Aurelianus
Mur Aurelianus ger y Porta San Sebastiano
Mathmur amddiffynnol, safle archaeolegol, real property Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAurelian Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 271 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRhufain Edit this on Wikidata
Gwladyr Eidal Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau41.87329°N 12.49896°E Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolpensaernïaeth Rufeinig Edit this on Wikidata
Statws treftadaethased diwylliannol yr Eidal Edit this on Wikidata
Manylion
Deunyddconcrit, bricsen Edit this on Wikidata

Roedd muriau amddiffynnol o amgylch Rhufain cyn hyn, yn enwedig y mur a briodolir i un o frenhinoedd cynnar Rhufain, Servius Tullius. Ail-adeiladwyd y mur yma wedi i'r ddinas gael ei chipio gan y Celtiaid dan Brennus yn 390 CC, ond yn y canrifoedd dilynol, tyfodd y ddinas ymhell tu hwnt i'r muriau hyn.

Llofruddiwyd Aurelianus yn mis Medi 275 gan Gard y Praetoriwm, a cwblhawyd y mur gan ei oluynydd, Probus. Roedd y mur yn wreiddiol yn 6 medr o uchder a 3.5 medr o drwch, gyda 383 o dyrrau ar gyfer gwylwyr.

Mae rhan helaeth o'r mur, tua 13 km ar lan ddwyreiniol afon Tiber, yn parhau mewn cyflwr da, yn enwedig y rhan ddeheuol. Dim ond ychydig weddillion sydd i'w gweld ar lan orllewinol y Tiber. Ceir hanes y mur yn y Museo delle Mura yn y Porta San Sebastiano.