Muriel Drinkwater

Merch ddeuddeg oed a lofruddiwyd yng Nghoedwig Penllergaer, Abertawe ar 27 Mehefin, 1946 oedd Muriel Drinkwater.

Muriel Drinkwater
Ganwyd1933 Edit this on Wikidata
Caerfyrddin Edit this on Wikidata
Bu farw27 Mehefin 1946 Edit this on Wikidata
Penlle'r-gaer Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymru Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd Muriel yn ferch i Percival a Margaret Drinkwater ac arferent fyw ar fferm "Tyle Du". Hi oedd yr ifancaf o bedwar o blant.[1]

Aeth ar goll ar ei ffordd adref o Ysgol Ramadeg Tregwyr ar 27 Mehefin, 1946. Teithiodd adref ar y bws gan gyrraedd ardal Penllergaer am 4.20y.p. cyn dechrau ar y daith ugain munud i fyny'r rhiw serth trwy'r goedwig i fferm Tyle Du. Ar bont y rheilffordd, pasiodd bachgen 13 oed, Brinley Hoyles, a oedd ar ei ffordd adref ar ôl prynu 2 lb o fenyn wrth fam Muriel. Roedd y ddau ohonynt yn adnabod ei gilydd am iddynt fynychu'r un ysgol gynradd, cyn iddynt gael eu gwahanu gan arholiad yr 11-plus.

Ychydig o amser ar ôl hyn, cipiwyd Muriel ac aethpwyd a hi i mewn i'r goedwig lle trawyd hi, mwy na thebyg gan garn y gwn. Gadawyd pum briw dwfn ar ei thalcen.[2]. Pan na ddychwelodd Muriel adref, aeth ei mam i'r pentref i ddweud wrth y Cwnstabl lleol, tra bod ei thad wedi mynd i'r goedwig i chwilio amdani. Canfuwyd ei chorff trannoeth am 10.35y.b.[2] Roedd yn gwisgo ei chot ysgol las a'i menyg coch. Roedd wedi cael ei threisio a'i saethu ddwywaith[1] gyda phistol US Colt 45.

Galwyd Scotland Yard i gynorthwyo gyda'r ymchwiliad, a ganolbwyntiodd lawer ar gefndir y gwn. Danfonwyd y pistol at yr FBI yn yr Unol Daleithiau er mwyn cael gwybod mwy amdano. Dywedwyd fod y gwn wedi ei gynhyrchu yn Arfdy Springfield ym 1942 a'u bod wedi cael eu trosglwyddo i'r lluoedd Americanaidd a oedd yn ymladd yn Ewrop yn yr Ail Ryfel Byd. Fodd bynnag, gyda chynifer o arfau ar gael yn ystod y cyfnod hwn, nid oedd unrhyw gofnod o ba filwyr dderbyniodd y gwn.

Arweiniwyd y tîm i geisio dal y llofrudd gan y Prif Dditectif Inspector William "Bulldog" Chapman, a dywedir i'r achos fod yn ddraenen yn ei ystlys tan ei farwolaeth naw mlynedd yn ddiweddarach.[2] Cynhaliwyd ymchwiliad nas gwelwyd mo'i fath yn yr ardal, gyda'r heddlu'n cyfweld â thros 20,000 o ddynion yn Abertawe, Aberdar a Sir Gaerfyrddin.[1]

Claddwyd Muriel ym mynwent Eglwys Dewi Sant ym Mhenllergaer ar 2 Gorffennaf, 1946. Mynychodd 3,000 o bobl ei hangladd.[1][3] Bu farw ei rhieni heb wybod pwy oedd yn gyfrifol am farwolaeth eu merch.

Datblygiadau diweddar golygu

Ym 1999, ail-agorwyd yr achos gan astudio'r dystiolaeth unwaith eto. Credwyd y byddai datblygiadau fforensig o gymorth i ddatrys yr achos. Dywedodd y Prif Dditectif Inspector Paul Bethell o Heddlu De Cymru ei fod yn credu fod y llofrudd rhwng 18 a 25 pan ddigwyddodd y drosedd [4] a olygai ei fod yn bosib fod y llofrudd dal yn fyw. Fel rhan o'r ymchwiliad newydd, defnyddiwyd DNA a oedd wedi ei ddarganfod ar got Drinkwater ond ni ddarganfuwyd neb a oedd yn cyfateb ar y cronfa ddata DNA cenedlaethol. Fodd bynnag, gellir defnyddio'r wybodaeth er mwyn adnabod unrhyw ddisgynyddion a gafodd.

Mae'r heddlu hefyd wedi edrych ar y posibilrwydd mai'r un person a laddodd Sheila Martin yn Swydd Gaint deng niwrnod yn ddiweddarach.[2]

Cyfeiriadau golygu