Murlun Siartwyr Casnewydd
Murlun mosäig oedd Murlun Siartwyr Casnewydd. Cafodd ei godi yn y 1970au ger Sgwâr John Frost yng nghanol Casnewydd er mwyn nodi Terfysg Casnewydd ym 1839.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith celf wedi'i ddinistrio, murlun |
---|---|
Crëwr | Kenneth Budd |
Dechrau/Sefydlu | 1978 |
Genre | celf gyhoeddus |
Lleoliad | Casnewydd |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cafodd y murlun ei chwalu ar 3 Hydref 2013, er gwaethaf protest o blaid ei gadw. Dywedodd Cyngor Dinas Casnewydd roedd angen dymchwel y murlun er mwyn codi canolfan siopa newydd, a'i bod hi'n rhy ddrud i'w symud.[1][2] Cafodd Cadw ei feirniadu am wrthod cais i wneud y murlun yn adeilad rhestredig.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Dymchwel murlun Casnewydd. BBC (4 Hydref 2013). Adalwyd ar 30 Hydref 2013.
- ↑ Murlun Casnewydd – addo mwy o brotestiadau. Golwg360 (5 Hydref 2013). Adalwyd ar 30 Hydref 2013.
- ↑ Murlun Siartwyr Casnewydd – “diffygion CADW”. Golwg360 (29 Hydref 2013). Adalwyd ar 30 Hydref 2013.