Glain (mwclis)

(Ailgyfeiriad o Mwclis)

Peled neu gronnell fechan a wneir o wydr, pren, metel, cneuen, cregyn, asgwrn, hedyn, ac yn y blaen ac wedi ei thyllu er mwyn ei ddodi ar linyn yw glain[1][2] neu mwclen[1][3] (ffurf luosog: mwclis). Gwisgir ar y corff, yn enwedig y gwddf a'r arddyrnau, fel tlws neu swyndlws, weithiau am resymau crefyddol neu hudol. Yn hanesyddol defnyddir hefyd fel arian.[4]

Mwclis o leiniau sy'n dyddio o'r 3edd neu'r 4edd ganrif.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Geiriadur yr Academi, [bead].
  2.  glain. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Hydref 2014.
  3.  mwclis. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Hydref 2014.
  4. (Saesneg) bead (ornament). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 8 Hydref 2014.
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  Eginyn erthygl sydd uchod am gelf a chrefft. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.