Mwrog
sant o'r 5ed ganrif
Sant o Gymru oedd Mwrog (bl. 6g efallai). Ychydig iawn a wyddys amdano ac mae ei enw ei hun yn anghyffredin ac efallai o darddiad Gwyddeleg.
Mwrog | |
---|---|
Eglwys Llanfwrog, Rhuthun | |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | arweinydd crefyddol |
Dydd gŵyl | 6 Ionawr, 15 Ionawr |
Hanes a thraddodiad
golyguCysylltir y sant â dau le yng ngogledd Cymru, sef Llanfwrog, Ynys Môn a Llanfwrog, Sir Ddinbych. Yn y Llanfwrog yn Sir Ddinbych, sy'n gorwedd ger Rhuthun yn rhan uchaf Dyffryn Clwyd, mae'r eglwys yn gysegredig i Fwrog a'r Forwyn Fair. Mae'r llan o gwmpas yr eglwys o ffurf gron, sy'n awgrymu sefydliad cynnar. Gerllaw ceir Mynwent Mwrog, cae lle codwyd yr eglwys neu fyfyrgell wreiddiol, yn ôl traddodiad, ond does dim olion i'w gweld yno heddiw.[1]
Gwyliau: 6 Ionawr (Llanfwrog, Ynys Môn), 15/16 Ionawr (Llanfwrog, Sir Ddinbych).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000), tud. 409-410.