Llanfwrog, Sir Ddinbych
Pentref bychan a phlwyf eglwysig ger Rhuthun yn Sir Ddinbych yw Llanfwrog ( ynganiad ). Fe'i lleolir fymryn i'r de-orllewin o dref Rhuthun yn rhan uchaf Dyffryn Clwyd ar y ffordd B5105 sy'n cysylltu Rhuthun a Cherrigydrudion. Pentref ar wahân fu Llanfwrog tan yn ddiweddar, ond gyda chodi tai newydd rhyngddo a Rhuthun mae'r pentref wedi troi'n fath o faesdref i'r dref honno erbyn heddiw.
![]() | |
Math |
pentref, anheddiad dynol ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Sir Ddinbych ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
53.1073°N 3.3234°W ![]() |
Cod OS |
SJ113575 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Darren Millar (Ceidwadwyr) |
AS/au | David Jones (Ceidwadwr) |
![]() | |

Yn ôl traddodiad, sefydlwyd Llanfwrog gan Sant Mwrog (6g efallai). Cysylltir y sant hwnnw â Llanfwrog arall ar Ynys Môn hefyd. Mae'r eglwys, a gysegrir i Fwrog a'r Forwyn Fair, yn hynafol. Saif ar godiad tir ger y B5105. Mae ganddi dŵr sgwâr o gerrig calchfaen yn ei phen gorllewinol a addurnir a meini tywodfaen coch. Ceir corff (nave) dwbl, ffurf sy'n nodweddiadol o bensaernïaeth hen eglwysi Dyffryn Clwyd. Ychwanegwyd yr ail yn y 14g.[1]
Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Darren Millar (Ceidwadwyr) a'r Aelod Seneddol yw David Jones (Ceidwadwr).[2][3]
CyfeiriadauGolygu
- ↑ North Wales yn y gyfres 'Traveller's Guides' (Dartman, Longman a Todd, d.d.), tud. 67.
- ↑ Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
Aberchwiler · Betws Gwerful Goch · Bodelwyddan · Bodfari · Bontuchel · Bryn Saith Marchog · Bryneglwys · Carrog · Cefn Meiriadog · Clocaenog · Corwen · Cwm · Cyffylliog · Cynwyd · Derwen · Dinbych · Diserth · Y Ddwyryd · Efenechtyd · Eryrys · Four Crosses · Gallt Melyd · Gellifor · Glyndyfrdwy · Graeanrhyd · Graigfechan · Gwyddelwern · Henllan · Loggerheads · Llanarmon-yn-Iâl · Llanbedr Dyffryn Clwyd · Llandegla · Llandrillo · Llandyrnog · Llandysilio-yn-Iâl · Llanelidan · Llanelwy · Llanfair Dyffryn Clwyd · Llanferres · Llanfwrog · Llangollen · Llangwyfan · Llangynhafal · Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch · Llanynys · Maeshafn · Melin y Wig · Nantglyn · Pandy'r Capel · Pentrecelyn · Pentre Dŵr · Prestatyn · Prion · Rhewl (1) · Rhewl (2) · Rhuallt · Rhuddlan · Rhuthun · Y Rhyl · Saron · Sodom · Tafarn-y-Gelyn · Trefnant · Tremeirchion