Proses o dynnu metel o'i fwyn drwy ei boethi yw mwyndoddi neu smeltio. Math o 'feteleg cloddio' (extractive metallurgy) ydyw a defnyddir y broses hon i gloddio nifer o fetalau o'u ffurf naturiol, a elwir yn 'fwyn', gan gynnwys arian, haearn a chopr.

Ffwrnais mwyndoddi ffosffad yn Alabama.

Mae'n defnydio gwres uchel a rhydwythydd cemegol (chemical reducing agent) i ddadelfennu'r mwyn. Mae'r broses hon yn cael gwared o elfennau eraill fel nwyon neu sorod gan adael y bas fetal ar ôl. Arferid defnyddio siarcol fel rhydwythydd, ers talwm, a côc wedi hynny. Yn y broses hon, mae'r carbon (a'r carbon deuocsid) yn tynnu ocsigen o'r mwyn. Mae'r carbon, felly'n ocsideiddio ar ddau adeg, gan gynhyrchu carbon monocsid yn gyntaf a charbon deuocsid wedyn. Gan fod y mwynau, fel rheol, yn amhur, mae'n hanfodol defnyddio toddydd ('fflwcs') er mwyn cael gwared a'r sorod.

Eginyn erthygl sydd uchod am feteleg neu fetelwaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.