Plasdy bychan ar Ynys Môn yw Myfyrian. Mae'n goroesi heddiw fel ffermdy sylweddol ym mhlwyf Llanidan, tua 4 milltir i'r de o dref Llangefni a thua 2 filltir i'r gorllewin o bentref Llanddaniel Fab yn ne-orllewin yr ynys.

Myfyrian
Math ffermdy Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Ynys Môn Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 53.205231°N 4.290438°W Edit this on Wikidata
Cod post LL60 6NW Edit this on Wikidata
Statws treftadaeth adeilad rhestredig Gradd II Edit this on Wikidata
Manylion

Am bum cenhedlaeth o ddechrau'r 16g hyd ganol yr 17g bu teulu Myfyrian ymhlith yr amlycaf o noddwyr beirdd a cherddorion Môn. Hyd y gwyddys, cychwynwyd y traddodiad gan Rhydderch ap Dafydd (m. 1561 neu 1562). Bu'r bardd Lewis Menai yn fardd teulu Myfyrian yng nghyfnod ei fab, Rhisiart ap Rhydderch (m. 1576). Bu ei fab Rhydderch ap Rhisiart yn fardd a noddwr.

Roedd y beirdd a chroesewid ar yr aelwyd ar eu cylchoedd clera yn cynnwys Dafydd Alaw a Huw Cornwy.

Nodyn: Ni ddylid cymysgu rhwng y plasdy hwn a'r Myvyrian Archaiology of Wales, y cyfeirir ati weithiau fel "Y Myvyrian". Enwir y gyfrol ar ôl Owain Myfyr, noddwr y llyfr, a does dim cysylltiad gyda'r plasdy.

FfynhonnellGolygu

  • Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.