Llangefni
Tref a chymuned yng nghanol Ynys Môn yw Llangefni. Mae wedi bod yn dref farchnad bwysig i'r ynys. Llangefni yw tref sirol Môn a lleolir pencadlys Cyngor Sir Ynys Môn yma. Yn ôl Cyfrifiad 2001, mae gan Llangefni boblogaeth o 4,499 o bobl. Mae 83.8% o'r boblogaeth honno'n rhugl yn y Gymraeg gyda'r canran uchaf yn yr oedran 10-14 mlwydd gyda 95.2% yn medru'r Gymraeg. O'i tharddle ger Llyn Cefni rhed Afon Cefni trwy'r dref, sy'n cymryd ei enw o'r afon. Mae Caerdydd 211.6 km i ffwrdd o Llangefni ac mae Llundain yn 344.7 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 11.7 km i ffwrdd.
![]() | |
Math | tref sirol ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Cymuned Llangefni ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.256°N 4.314°W ![]() |
Cod OS | SH4675 ![]() |
Cod post | LL77 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au | Virginia Crosbie (Ceidwadwyr) |
![]() | |
Yn y dref ceir Oriel Môn, gydag amgueddfa sy'n olrhain hanes yr ynys ac oriel i ddangos gwaith yr arlunydd bywyd gwyllt Charles Tunnicliffe.
Y prif dref fasnachol ac amaethyddol mewn Sir Fôn ydy Llangefni, gan fod Caergybi yn dref â phorthladd a go wahanol yn ddiwylliannol ac ieithyddol â'r gweddill y sir. Cafodd marchnad gyntaf y dref ei chynnal yn 1785 ac mae'n dal i gael ei chynnal bob dydd Iau a dydd Sadwrn. Cafodd Subway ei hadeiladu yno erbyn hyn.
Mae Llangefni yn dref fasnachol a ffermio ar Ynys Môn a fu unwaith yn gartref i farchnad wartheg fwyaf yr ynys. Mae yna ystâd ddiwydiannol gymharol fawr, sy'n cynnwys ffatri brosesu cyw iâr fawr, y gweithrediad diwydiannol sengl mwyaf yn y dref, yn ogystal â nifer o fusnesau bach eraill.
HanesGolygu
Yn yr Oesoedd Canol bu'n rhan o gwmwd Menai, cantref Aberffraw.
Mae eglwys y plwyf, Eglwys Cyngar Sant,yn sefyll mewn coed yn y Dingle. Un o enwau'r dref yn y gorffennol oedd 'Llangyngar',hen enw'r eglwys.
Yng nghanol y dref mae cloc wedi wneud o garreg clach o Dreath Bychan ger Marian-Glas ar arfodir dwyreiniol Ynys Mon. Adeiladwyd yny flynyddoedd 1902/03. Cyn hynny yn yr 1880au adeiladwyd neuadd y dref o'r un deunydd a'r cloc ac agorwyd ar Fawrth y 10fed,1884.
AddysgGolygu
Prif ysgol y cylch yw Ysgol Gyfun Llangefni. Ar safle yng ngorllewin y dref.
Ceir campws lleol Coleg Menai yn y dref.
ChwaraeonGolygu
Mae Clwb Pêl-droed Llangefni yn chwarae yng Nghynghrair Undebol y Gogledd.
Ceir Clwb Rygbi Llangefni hefyd.
EnwogionGolygu
- John Elias. Bu'r pregethwr enwog yn byw yn Llangefni o 1830 hyd 1841.
- Christmas Evans. Bu'r pregethwr yn byw yn y dref yn y cyfnod 1791–1826.
- Hywel Gwynfryn, cyflwynydd radio a aned yn y dref.
- Kyffin Williams, arlunydd a aned yn y dref yn 1908.
Eisteddfod GenedlaetholGolygu
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Llangefni ym 1957 a 1983. Am wybodaeth bellach gweler:
Cyfrifiad 2011Golygu
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]
OrielGolygu
Gweler hefydGolygu
CyfeiriadauGolygu
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Trefi
Amlwch ·
Benllech ·
Biwmares ·
Caergybi ·
Llangefni ·
Niwbwrch ·
Porthaethwy
Pentrefi
Aberffraw ·
Bethel ·
Bodedern ·
Bodewryd ·
Bodffordd ·
Bryngwran ·
Brynrefail ·
Brynsiencyn ·
Brynteg ·
Caergeiliog ·
Capel Coch ·
Capel Gwyn ·
Carmel ·
Carreglefn ·
Cemaes ·
Cerrigceinwen ·
Dwyran ·
Y Fali ·
Gaerwen ·
Glyn Garth ·
Gwalchmai ·
Heneglwys ·
Hermon ·
Llanallgo ·
Llanbabo ·
Llanbedrgoch ·
Llandegfan ·
Llandyfrydog ·
Llanddaniel Fab ·
Llanddeusant ·
Llanddona ·
Llanddyfnan ·
Llanedwen ·
Llaneilian ·
Llanfachraeth ·
Llanfaelog ·
Llanfaethlu ·
Llanfair Pwllgwyngyll ·
Llanfair-yn-Neubwll ·
Llanfair-yng-Nghornwy ·
Llan-faes ·
Llanfechell ·
Llanfihangel-yn-Nhywyn ·
Llanfwrog ·
Llangadwaladr ·
Llangaffo ·
Llangeinwen ·
Llangoed ·
Llangristiolus ·
Llangwyllog ·
Llaniestyn ·
Llannerch-y-medd ·
Llanrhuddlad ·
Llansadwrn ·
Llantrisant ·
Llanynghenedl ·
Maenaddwyn ·
Malltraeth ·
Marianglas ·
Moelfre ·
Nebo ·
Pencarnisiog ·
Pengorffwysfa ·
Penmynydd ·
Pentraeth ·
Pentre Berw ·
Pentrefelin ·
Penysarn ·
Pontrhydybont ·
Porthllechog ·
Rhoscolyn ·
Rhosmeirch ·
Rhosneigr ·
Rhostrehwfa ·
Rhosybol ·
Rhydwyn ·
Talwrn ·
Trearddur ·
Trefor ·
Tregele