Myles Dillon

hanesydd, ieithegydd, celtegwr (1900-1972)

Ysgolhaig Celtaidd o Iwerddon oedd Myles Dillon (11 Mai 190018 Mehefin 1972).

Myles Dillon
Ganwyd11 Ebrill 1900 Edit this on Wikidata
Dulyn Edit this on Wikidata
Bu farw18 Mehefin 1972 Edit this on Wikidata
Dulyn Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethhanesydd, ieithegydd, Celtegwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
TadJohn Dillon Edit this on Wikidata
MamElizabeth Dillon Edit this on Wikidata
PriodElizabeth Mary La Touche Edit this on Wikidata
PlantJohn M. Dillon, Katherine Dillon, Elizabeth Dillon, Robert Peter Dillon, Andrew James Dillon Edit this on Wikidata
PerthnasauFergus Kelly Edit this on Wikidata

Ganed Myles Dillon yn ninas Dulyn; yn fab i John Dillon a'i wraig Elizabeth Mathew. Roedd James Matthew Dillon, arweinydd Fine Gael, yn frawd iddo. Graddiodd o Goleg Prifysgol Dulyn, cyn teithio i'r Almaen a Ffrainc, lle bu'n astudio dan Joseph Vendryes a Rudolf Thurneysen. Bu'n darlithio mewn Sanskrit ac ieitheg gymhaol yn Ngholeg y Drindod, Dulyn o 1928 hyd 1930), yna'n ddarlithydd yng Ngholeg Prifysgol hyd 1937. Yn y frlwyddyn honno, symudodd i'r Unol Daleithiau, lle bu'n dysgu Gwyddeleg ym Mhrifysgol Madison ac yna yn Chicago, Wedi dychwelyd i Iwerddon, bu'n gweithio yn Ysgol Astudiaethau Celtaidd y Dublin Institute for Advanced Studies, lle bu'n Gyfarwyddwr o 1960 hyd 1968. Bu'n olygydd y cylchgrawn Celtica.

Cyhoeddiadau golygu

  • The Cycles of the Kings OUP, 1946; rep. Four Courts Press 1994)
  • Early Irish Literature Chicago, 1948; rep. 1969; rep. Four Courts Press 1994
  • Early Irish Society Dulyn 1954 (gol.)
  • Irish Sagas 1959, reps. 1968, 1985, 1996
  • The Book of Rights Dulyn 1962
  • The Celtic Realms (gyda Nora Chadwick),1967
  • Celts and Aryans Simla 1975