Rudolf Thurneysen
academydd, ieithydd (1857-1940)
Ysgolhaig Celtaidd o'r Swistir oedd Eduard Rudolf Thurneysen (14 Mawrth 1857 - 9 Awst 1940).
Rudolf Thurneysen | |
---|---|
Ganwyd | 14 Mawrth 1857 Basel |
Bu farw | 9 Awst 1940 Bonn |
Dinasyddiaeth | Y Swistir |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ieithydd, academydd |
Cyflogwr | |
Perthnasau | Maximilian Sell |
Gwobr/au | Medal Goethe ar gyfer Celf a Gwyddoniaeth, Cymrawd Cyfatebol Academi Ganoloesol America |
Ganed ef yn Basel, ac astudiodd ieithyddiaeth yn Basel, Leipzig, Berlin a Paris. Ymhlith ei athrawon, roedd Heinrich Zimmer. Graddiodd yn 1879 yn Leipzig, a chymeryd gradd uwch (Habilitation) yn 1882 yn Jena. O 1885 hyd 1887. bu'n Arhto ieithyddiaeth gymharol yn Jena, yna'n Athro ym Mhrifysgol Freiburg im Breisgau, yma o 1913 hyd 1923 yn Bonn.
Yn 1909, cyhoeddodd Thurneysen ei Handbuch des Alt-Irischen ("Llawlyfr Hen Wyddeleg"), gwaith a ystyrir yn glasur. Bu hefyd yn olygydd y Zeitschrift für celtische Philologie.