Mynediad i Eiriolaeth

Mae Mynediad i Eiriolaeth yn wasanaeth eirioli annibynnol sydd wedi'i leoli yn y Rhyl, Sir Ddinbych. Mae'n nhw'n cynorthwyo pobl dros 50 oed sy'n byw o fewn y sir; byddant yn y dyfodol agos, hefyd, yn cynorthwyo pobl ifanc 11-25 oed.[1] Mae'r gwasanaeth yn ceisio sicrhau llais i'r bobl hyn ac yn eu cynorthwyo i sicrhau fod cwmniau a gwasanaethau eraill yn gwrando arnynt; ceisiant hefyd eu harfogi fel y gallent wneud penderfyniadau, magu hyder a datrys problemau tebyg yn y dyfodol.[2]

Mynediad i Eiriolaeth
Math
busnes
PencadlysY Rhyl
Logo Mynediad i Eiriolaeth

Gweithiant mewn partneriaeth gyda phobol sydd angen cymorth, gan eu cefnogi a chymeryd eu hochor. Mae'r math o broblemau maen nhw'n delio gyda o ddydd i ddydd yn amrywiol iawn:

  • materion ariannol e.e. problemau dyled neu fusnes yn mynd i'r wal
  • gofalaeth e.e. symud i mewn neu allan o gartref gofal neu dderbyn gofal gartref
  • cynghori ynghylch nawdd e.e. nawdd cymdeithasol
  • problemau yn y catref e.e. landlord yn bygwth eu taflyd allan o fflat
  • darllen llythyrau a deall ffurflenni e.e. ymwneud â biliau trydan[3]

Mae nhw'n cynnal cyfarfodydd ymgynghorol yn y Rhyl, Dinbych a Chorwen, ble mae gwirfoddolwyr sydd wedi'u hyfforddi'n ceisio deall y sefyllfa a chynghori'r person sydd angen cymorth. Mae'r staff hefyd yn ymweld â phobl yn eu cartrefi, neu adeilad arall, cyfleus. Mae'r gwasanaeth yn hollol ddibynnol ar ariannu allanol, sydd hyd at 2014 yn dod o nawdd gan y Loteri.[4]

Y cleient

golygu

Mae'r cleint yn cynnwys grwpiau amrywiol gan gynnwys: pobl hŷn, pobol ifanc, pobl â nam ar y clyw neu'r golwg, pobl gyda salwch meddyliol, ffoaduriaid a phobl na fedrant wneud penderfyniadau eu hunain. Grwp arall yw gofalwyr am bobl gydag anfantais neu afiechyd.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Accessing the Service". Mynediad i Eiriolaeth. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-07-23. Cyrchwyd 09 Mai 2012. Check date values in: |accessdate= (help)
  2. "An advocacy Service For Older People in Denbighshire". Cymdeithas Tai: Clwyd Alyn. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-23. Cyrchwyd 09 Mai 2012. Check date values in: |accessdate= (help)
  3. "Key facts and figures". Radio Wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-01-20. Cyrchwyd 09 Mai 2012. Check date values in: |accessdate= (help)
  4. "Gwefan y Loteri; adalwyd 15/05/2012". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-05-12. Cyrchwyd 2012-05-15.