Mynydd Carnguwch

bryn (357.6m) yng Ngwynedd

Bryn yn Llŷn, Gwynedd yw Mynydd Carnguwch (359 m). Saif tua milltir a hanner i'r de o gopaon Yr Eifl, tua hanner ffordd rhwng Llithfaen a Llanaelhaearn; cyfeiriad grid SH374429. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 255metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.

Mynydd Carnguwch
Mathcopa, bryn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr357.6 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.95898°N 4.42126°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH3746442924 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd102 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaYr Eifl Edit this on Wikidata
Map

Ceir carnedd anferth ar gopa'r bryn sy'n mesur tua 30 m ar draws ac sy'n 6 m o uchder. Mae'n bosibl bod y garnedd hon yn dyddio o Oes yr Efydd.

Gorwedd Mynydd Carnguwch ym mhlwyf Carnguwch, ac ymddengys fod y ddau le fel ei gilydd wedi eu henwi ar ôl y garnedd ar ben y bryn.

Y copa golygu

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n HuMP. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 359m (1178tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ddiwethaf ar 8 Mehefin 2009.

Gweler hefyd golygu

Dolennau allanol golygu

Cyfeiriadau golygu