Plwyf eglwysig yng nghwr gogledd-ddwyreiniol Llŷn yw Carnguwch. Mae'n gorwedd i'r de o fynydd Yr Eifl, rhwng Trefor a Llithfaen.

Carnguwch
Mathanheddiad dynol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadYr Eifl Edit this on Wikidata
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.959°N 4.422°W Edit this on Wikidata
Map

Yn yr Oesoedd Canol bu plwyf Carnguwch yn rhan o gwmwd Dinllaen yng nghantref Llŷn. Roedd y plwyf yn gapelaeth dan ofal Clynnog Fawr. Saif eglwys y plwyf ger y ffrwd fechan sy'n ei gwahanu oddi wrth plwyf Pistyll i'r gorllewin. I'r de ceir plwyf Llannor, sydd hefyd yn gymuned heddiw. Plwyf mynyddig heb lawer o breswylwyr fu Carnguwch erioed; yng Nghyfrifiad 1901 dim ond 112 o bobl oedd yn byw ynddo.[1]

Mae union ystyr y gair 'Guwch' (neu 'Giwch') yn ansicr.

Ceir Mynydd Carnguwch (359 m) yn y plwyf, a goronir gan garnedd anferth.

Cyfeiriadau golygu

  1. D. T. Davies, Hanes Eglwysi a Phlwyfi Lleyn (Pwllheli, 1910).
  Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato