Mynydd Hermon
Mynydd yn y Dwyrain Canol yw Mynydd Hermon (Arabeg: Jebel Al Shaikh, Hebraeg: הר חרמון, Har Hermon). Saif ym mynyddoedd Antilibanus, gyda'r copa ar y ffîn rhwng Libanus a Syria. Mae tua 100km2 o'r llethrau de-orllewinol dan reolaeth Israel ers y Rhyfel Chwe Diwrnod yn 1967; cyhoeddodd Israel yn 1980 fod y diriogaeth yma yn cael ei hymgorffori. Mae gan Syria ac Israel arsyllfeydd milwrol ar lethrau'r mynydd.
Math | mynydd, masiff, lle yn y Beibl |
---|---|
Sefydlwyd |
|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ucheldiroedd Golan |
Sir | Rashaya District |
Gwlad | Syria |
Uwch y môr | 2,813.95 metr |
Cyfesurynnau | 33.4°N 35.85°E |
Amlygrwydd | 1,804 metr |
Cadwyn fynydd | Anti-Lebanon mountains |
Deunydd | calchfaen |
Mae Mynydd Hermon yn enwog am ei harddwch, a chanodd llawer o feirdd Hebraeg ac Arabeg iddo. Ceir tarddle Afon Iorddonen ar ei lethrau, a cheir nifer o gyfeiriadau ato yn y Beibl. Oherwydd hyn, mae'n bur gyffredin fel enw ar gapel yng Nghymru, a cheir yr enw "Hermon" ar o leiaf dri phentref, Hermon (Sir Gaerfyrddin), Hermon (Sir Benfro) a Hermon (Ynys Môn).