Mynydd Herzl

Safle mynwent a gerddi coffa cenedlaethol Israel yn Jeriwsalem, enwyd wedi sylfaenydd Seiniaeth gyfoes, Theordor Herzl

Mynydd yn Jerwsalem yw Mynydd Herzl (Hebraeg: הר הרצל , Har Hertzel; hefyd Har HaZikaron, הר הזכרון llyth. "Mynydd Coffa"), lle lleolir y fynwent genedlaethol. Mae ganddi uchder o 834 metr.

Mynydd Herzl
Enghraifft o'r canlynolmynydd, mynwent Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1948 Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethIsrael Edit this on Wikidata
RhanbarthJeriwsalem, Bwrdeistref Jeriwsalem Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Rhoddwyd ei enw er anrhydedd i sylfaenydd Seioniaeth, Theodor Herzl, y mae ei feddrod ar y copa. Bwriad y fynwent yw claddu'r rhai sy'n cael eu hystyried arwyr rhyfel gwladwriaeth Israel, yn ogystal â'i Phenaethiaid Gwladol a chyn-lywyddion y Knesset (senedd Israel). W edi'u claddu ym mynwent Mynydd Herzl mae'r cyn Brif Weinidogion Yitzhak Rabin a Golda Meir, cyn-Arlywydd ac arweinydd cenedlaetholaidd, Ze'ev Jabotinsky, ymhlith eraill.[1]

Mynwent Sifil Genedlaethol Gwladwriaeth Israel (helkat Gedolei Ha'Uma)

golygu

Dyma brif fynwent Israel i wleidyddion y wlad.

Sgwâr Mount Herzl

golygu

Mae'n plaza seremonïol canolog ar Fynydd Herzl.

Amgueddfa Herzl

golygu
 
Bedd Theodor Herlz ar y mynydd, gydag "Herzl" wedi arysgrifio ar y maen

Mae'n amgueddfa fywgraffyddol yn sgwâr mynediad Mynwent Sifil Genedlaethol Israel.

Cofeb i ddioddefwyr terfysgaeth yn Israel

golygu

Mae ganddo hefyd gofeb i ddioddefwyr terfysgaeth yn Israel o 1851 hyd heddiw.

Gardd y Cenhedloedd

golygu

Mae Gardd y Cenhedloedd yn ardd gyhoeddus. Mae wedi cael ei blannu â choed olewydd gan arweinwyr tramor sy'n ymweld ag Israel. Mae plac ar bob coeden ac arno enw'r arweinydd a'i plannodd.

Y llwybr sy'n cysylltu ag Yad Vashem

golygu

Cynlluniwyd y ffordd goffa gan y pensaer Uri Abramson ac fe'i hadeiladwyd gan fudiadau ieuenctid Israel yn 2003. Mae'n adrodd hanes genedigaeth gwladwriaeth Israel, o ddechrau Seioniaeth hyd at ddatgan y wladwriaeth. Mae'r llwybr yn rhedeg o'r Fynwent Sifil Genedlaethol i Yad Vashem.

Mynwent Genedlaethol yr Heddlu a'r Milwyr

golygu

Mynwent ganolog ar gyfer amddiffynwyr syrthiedig Israel. Wedi'i leoli yn rhan ogleddol y mynydd.

Gardd ar goll mewn Cyrch

golygu

Mae'n ardd goffa ym Mynwent Genedlaethol yr Heddlu a'r Milwyr.

Ogof beddrodau hynafol

golygu

Ail Deml ogof gladdu Iddewig a ddarganfuwyd yn y Fynwent Genedlaethol yn 1954.

Neuadd Goffa Genedlaethol ar gyfer Trigolion Israel

golygu

Mae ganddo enwau holl amddiffynwyr syrthiedig Israel o 1860 hyd heddiw.

Dolenni

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Mitch Ginsburg (5 May 2014). "On Mount Herzl, with the keepers of the graves". The Times of Israel. Cyrchwyd 17 August 2016.