Pamir
(Ailgyfeiriad oddi wrth Mynyddoedd Pamir)
Mynyddoedd yn nwyrain Tajicistan, gyda rhannau llai yn nwyrain Affganistan a gogledd Pacistan yw mynyddoedd y Pamir. Mae'n cysylltu a mynyddoedd y Karakoram yn y de-ddwyarain, yr Hindu Kush yn y de-orllewin a'r Tien Shan yn y gogledd-ddwyrain.
![]() | |
Math |
cadwyn o fynyddoedd ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
Alpide belt ![]() |
Gwlad |
Cirgistan, Tajicistan, Gweriniaeth Pobl Tsieina, Affganistan, India, Pacistan ![]() |
Arwynebedd |
120,000 km² ![]() |
Uwch y môr |
7,649 metr ![]() |
Cyfesurynnau |
39.00194°N 71.99975°E ![]() |
Hyd |
500 cilometr ![]() |
Cyfnod daearegol |
Carbonifferaidd ![]() |
Cadwyn fynydd |
Himalaya ![]() |
![]() | |
Y copa uchaf yw Copa Ismail Samani, 7,495 medr uwch lefel y môr. Yr ail-uchaf yw Copa Lenin (7,134 medr). Gorchuddir rhan helaeth o'r mynyddoedd gan eira parhaol. Ceir diwydiant glo yn y rhan orllewinol, ond cadw defaid yw'r ffynhonnell incwm bwysicaf.
Yn 1964 adeiladodd y Rwsiaid ffordd 720 km o hyd o Osj i Chorog, sy'n codi i uchder o fwy na 4,500 medr.