Mynyddoedd o gwmpad y ffîn rhwng Casachstan, Cirgistan a thalaith Sinkiang yng Ngweriniaeth Pobl Tsieina yw'r Tien Shan neu Tian Shan (Tsieineeg: 天山; Tiān Shān).

Tien Shan
Mathcadwyn o fynyddoedd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCirgistan, Casachstan, Gweriniaeth Pobl Tsieina Edit this on Wikidata
GwladCirgistan, Casachstan, Gweriniaeth Pobl Tsieina, Wsbecistan Edit this on Wikidata
Uwch y môr7,439 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau42.0375°N 80.1253°E Edit this on Wikidata
Hyd2,500 cilometr Edit this on Wikidata
Cyfnod daearegolDefonaidd Edit this on Wikidata
Map

Y copaon uchaf yn y Tien Shan yw Copa Jengish Chokusu ("Copa Buddugoliaeth", Pik Pobedy, Ğeňiš Čokusu 7439 m) a Chan Tengri (7010 m). Rhwng y ddau fynydd yma ceir rhewlif Eňilček, y mwyaf yn y Tien Shan.

Y Tien Shan sy'n gwahanu dalgylchoedd afonydd Tarim ar yr ochr ogledd-ddwyreiniol a'r Ili, y Syr Darja a'r Čüj (Şu) ar yr ochr ogledd-orllewinol. Yn y de-orllewin, mae'r Tien Shan yn parhau fel y Pamir, ac yn y gogledd-ddwyrain fel y Bogda Shan. Y prif fwlch trwy'r mynyddoedd yw Bwlch Torugart (3752 m.).