Zagros
Mynyddoedd Zagros (Cyrdeg: زنجیره چیاکانی زاگروس) yw cadwyn mynydd fwyaf Iran ac Irac. Eu hyd yw 1,500 km o ogledd-orllewin Iran ac yna drwy ran fechan o ogledd-ddwyrain Irac ac i lawr de-orllewin Iran i Gwlff Persia. Mae'r mynyddoedd yn gorffen yn fryniau isel ger Culfor Hormuz. Y copaon uchaf yn y Zagros yw Zard Kuh (4,548 m) a Mynydd Dena (4,359 m). Mae'r rhan fwyaf o'r mynyddoedd yn gorwedd yn Iran.
Math | cadwyn o fynyddoedd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | llain Alpid |
Gwlad | Iran, Irac |
Arwynebedd | 533,512 km² |
Uwch y môr | 4,409 metr |
Cyfesurynnau | 33.67°N 47°E |
Hyd | 1,500 cilometr |
Deunydd | craig waddodol |
Cafodd y Zagros eu ffurfio gan wrthdrawo rhwng dau blât tectonig — platiau Ewrasia ac Arabia. Ceir ffynonellau pwysig o olew mewn rhannau o'r gadwyn, er enghraifft ger dinas Kermanshah.
Mae'r Zagros yn fynyddoedd cymhleth. Cyfres o gadwyni cyfochrog ydynt sy'n ymestyn dros ardal eang yng ngorllewin Iran. Nid oes cytundeb llwyr ar ddiffinio eu tiriogaeth. Gellid dadlau mai'r gadwyn sylweddol yn ne-orllewin Iran sy'n ffurfio'r Zagros go iawn, lle ceir y copaon uchaf, ond mae rhai daearyddwyr yn cynnwys yr holl gadwynni llai i'r gogledd-orllewin, gan gynnwys y rhan o Kurdistan sydd yng ngogledd Irac, gan eu hymestyn weithiau i gynnwys y mynyddoedd uchel ar y ffin ag Aserbaijan lle ceir mynydd Sabalan (4,811m / 15,784 troedfedd).
Ymhlith safleodd archaeolegol y Zagros mae Jarmo a Shanidar, lle cafwyd gweddillion ysgerbydau Neanderthal, yn sefyll allan. Cafwyd hyd i dystiolaeth fod dynion yn gwneud gwin yn yr ardal, yn Hajji Firuz a Godin Tepe, efallai mor gynnar â 3500 neu 5400 CC.
Yn yr Henfyd, roedd mynyddoedd y Zagros yn gartref i bobloedd "barbaraidd" fel y Kassiaid, y Guti, a'r Mitanni, a ddeuai o bryd i'w gilydd i geisio goresgyn dinasoedd Sumer neu Akkad ym Mesopotamia. Ers gwawr hanes mae'r mynyddoedd wedi ffurfio gwahanfur rhwng gwastadiroedd poeth Mesopotamia (Irac) a llwyfandir uchel Iran. Yng nghyffiniau'r Zagros tyfodd hen ddinasoedd Susa a Persepolis, prifddinas seremonïol Ymerodraeth Persia.