Uchel Ddugiaeth Moscfa

(Ailgyfeiriad o Mysgofi)

Uchel ddugiaeth neu dywysogaeth yn ardal Rus' yn yr Oesoedd Canol Diweddar oedd Uchel Ddugiaeth Moscfa,[1][2] Mysgofi, Rus' Mysgofi,[3][4][5] neu Uchel Dywysogaeth Moscfa[6][7] (Rwsieg: Великое Княжество Московское, Velikoye Knyazhestvo Moskovskoye) a fu'n rhagflaenydd i wlad Rwsia. Teyrnaswyd drosti gan frenhinlin y Rurik, a fuont yn rheoli Rus' ers sefydlu Novgorod yn 862.

Uchel Ddugiaeth Moscfa
Великое княжество Московское
Velikoye knyazhestvo Moskovskoye
  • Gwladwriaeth gaeth i'r Llu Euraid
    (1263–1480)
  • Gwladwriaeth sofran
    (1480–1547)
1263–1547

Eryr yr Ymerodraeth Fysantaidd (mabwysiadwyd 1472)

Location of Mysgofi
Datblygiad tiriogaethol
o 1300 i 1547
Prifddinas Moscfa
Ieithoedd Hen Slafoneg Dwyreiniol
Crefydd Yr Eglwys Uniongred Rwsiaidd
Llywodraeth Brenhiniaeth absoliwt
Uchel Ddug
 -  1263–1303 Daniel (cyntaf)
 -  1533–1547 Ifan IV (olaf)
Hanes
 -  Sefydlwyd 1263
 -  Coroni Ifan IV 16 Ionawr 1547
Arwynebedd 2,500,000 km² (965,255 sq mi)
Arian cyfred rwbl, denga
Preceded by
Succeeded by
Vladimir-Suzdal
Tywysogaeth Yaroslavl
Tywysogaeth Nizhny Novgorod-Suzdal
Gweriniaeth Novgorod
Uchel Ddugiaeth Tver
Perm Fawr
Tsaraeth Rwsia
Heddiw'n rhan o

Sefydlwyd yr Uchel Ddugiaeth ym 1263 pan penodwyd Daniel, mab y tywysog Rurik Alexander Nevsky, yn Uchel Dywysog Moscfa, a oedd yn wladwriaeth gaeth i'r Ymerodraeth Fongolaidd ("Iau'r Tatar"). Erbyn y 1320au, ymgorfforwyd Uchel Ddugiaeth Vladimir-Suzdal yn rhan o Fysgofi. Cyfeddiannwyd Gweriniaeth Novgorod ym 1478 a gorchfygwyd Uchel Ddugiaeth Tver ym 1485. Parhaodd Mysgofi yn gaeth i'r Llu Euraid, y chaniaeth a olynai cwymp yr Ymerodraeth Fongolaidd yn Nwyrain Ewrop, Gorllewin Siberia a Chanolbarth Asia, hyd at 1480, er bu gwrthryfeloedd ac ymgyrchoedd milwrol yn fynych yn erbyn y Mongolwyr, er enghraifft buddugoliaeth Dmitri Donskoi ym Mrwydr Kulikovo (1380).[8]

Dan Iau'r Tatar, caniatawyd Mysgofiaid, Suzdaliaid, a thrigolion eraill Rus' gan amlaf i gadw at eu traddodiadau Slafaidd, paganaidd, ac Uniongred. Atgyfnerthwyd y wladwriaeth yn ystod teyrnasiad Ifan III (1462–1505), a goronodd ei hun yn Uchel Dywysog Holl Rus' ym 1502. Arweiniodd sawl ymgyrch yn erbyn Uchel Ddugiaeth Lithwania ac erbyn 1503 llwyddodd i dyfu tiriogaeth ei deyrnas deirgwaith. Trwy ei briodas i Sophia Palaiologina, merch Cystennin XI Palaiologos, yr olaf o'r ymerodron Bysantaidd, hawliodd Ifan III ei deyrnas yn olynydd i'r Ymerodraeth Rufeinig, a rhoddai'r enw "Y Drydedd Rufain" ar Foscfa. Ymfudodd nifer o Fysantiaid i'r Uchel Ddugiaeth, gan gryfhau hunaniaeth grefyddol a diwylliannol y Mysgofiaid. Concrwyd Tywysogaeth Smolensk gan olynydd Ifan, Vasili III, oddi ar Lithwania ym 1512, gan ymestyn ffiniau Mysgofi hyd at lannau Afon Dniepr. Ar ei hanterth bu Uchel Ddugiaeth Moscfa yn cynnwys y rhan helaethaf o ogledd a chanolbarth Rwsia Ewropeaidd, a rhywfaint o diriogaeth a leolir heddiw yn y Ffindir, Belarws, a'r Wcráin. Daeth yr Uchel Ddugiaeth i ben ym 1547 yn sgil coroni mab Vasili, Ifan IV yn Tsar Rwsia, ac felly fe'i olynwyd gan Tsaraeth Rwsia.

Cyfeiriadau golygu

  1. A Short History of the USSR (yn Saesneg). Progress Publishers. 1965.
  2. Florinsky, Michael T. (1965). Russia: a History and an Interpretation (yn Saesneg).
  3. Dewey, Horace W. (1987). "Political Poruka in Muscovite Rus'". The Russian Review 46 (2): 117–133. doi:10.2307/130622. ISSN 0036-0341. JSTOR 130622.
  4. Isham, Heyward; Pipes, Richard (2016-09-16). Remaking Russia: Voices from within: Voices from within (yn Saesneg). Routledge. ISBN 978-1-315-48307-8.
  5. "Московская Русь • Arzamas". Arzamas (yn Rwseg). Cyrchwyd 2020-05-12.
  6. "Moscow, Grand Principality of". Encyclopædia Britannica. Chicago: Encyclopædia Britannica. 2012.
  7. Perrie, Maureen, gol. (2006). The Cambridge History of Russia. 1. Cambridge University Press. t. 751. ISBN 978-0-521-81227-6.
  8. Davies, B. Warfare, State and Society on the Black Sea Steppe, 1500–1700. Routledge, 2014, p. 5