Mysoglen
plasty ar Ynys Môn
Plasdy ym Môn oedd Mysoglen ('Maesoglan' ar fapiau heddiw) a fu'n un o brif ganolfannau nawdd Beirdd yr Uchelwyr ar yr ynys yn yr 16g.[1] Erbyn heddiw mae'n ffermdy a elwir Maesoglan, tua milltir i'r de o bentref Llangaffo a thair i'r dwyrain o Rosyr yn ne-orllewin yr ynys. Rhif yr OS SH 4505 6728.
Math | plasty |
---|---|
Cysylltir gyda | Dafydd Alaw, Robert ab Ifan |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Llangaffo |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.179597°N 4.322025°W |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Llinos Medi (Plaid Cymru) |
Canodd Dafydd Alaw i deulu plasdy Mysoglen yng nghyfnod Huw ap Rhys ap Hywel, a dyma englyn ganddo i simnai newydd fawr y plas:
- Simnai wen Fysoglen fawr sôn—amdani,
- Lle denir cerddorion;
- Eglurferch, fe'i gŵyl Arfon,
- Pen-rhaith simneiau maith Môn.[2]
Roedd yn adnabyddus am yr ardd ffurfiol a grewyd yno hefyd. Yn ôl y bardd Robert ab Ifan (ail hanner yr 16g), roedd o siâp deimwnt ac yn llawn o berlysiau:
- Gardd gwmpli heini hynod—yw ei gwedd,
- A'i gwaith yn urddasglod;
- Llysiau o fil, lles yw fod,
- Yn gyswllt yn eu gosod.[3]