Llinos Medi

Gwleidydd Plaid Cymru

Etholwyd Llinos Medi fel Aelod Seneddol Ynys Môn yn yr etholiad cyffredinnol ar 4 Gorffennaf 2024 gan gynrychioli Plaid Cymru. Bu Llinos Medi Huws yn gynghorydd ar Gyngor Ynys Môn gan gynrychioli Plaid Cymru ers 2013.

Llinos Medi
GanwydYnys Môn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 59ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Etholiad Cyngor Ynys Môn, 2022.

Gyrfa wleidyddol

golygu

Magwyd Llinos Medi yn Ynys Môn a magodd ddau o blant ei hun ar yr ynys. Treuliodd chwech mlynedd fel arweinydd Cyngor Ynys Môn.[1]

Yn 2020, dewiswyd Llinos fel un o 100 o fenywod Cymru i'w dathlu ar ddiwrnod rhyngwladol menywod yn 2020.[2]

Yn Hydref 2023, cadarnhawyd Llinos Medi fel ymgeisydd San Steffan i Blaid Cymru yn Ynys Môn.[3]

Yn ôl arolwg barn gan Survation yn Chwefror 2024, roedd Llinos Medi ar y blaen i ennill sedd Ynys Môn gyda 39% o'r bleidlais. Roedd Llafur ar 27%, y Ceidwadwyr ar 26% (yn dal y sedd yn bresennol) a Diwygio ar 4%.[4]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Mansfield, Mark (2023-09-21). "Llinos Medi seeks nomination as Plaid Cymru candidate for Ynys Môn at next general election". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-02-01.
  2. "Anglesey Council leader Llinos is included in list of 100 Welsh women for International Women's Day 2020". North Wales Chronicle (yn Saesneg). 2020-03-11. Cyrchwyd 2024-02-01.
  3. Mansfield, Mark (2023-10-03). "Llinos Medi confirmed as Plaid Cymru's candidate for Ynys Môn at next general election". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-02-01.
  4. Mansfield, Mark (2024-02-01). "Double opinion poll boost for Plaid Cymru". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-02-01.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Virginia Crosbie
Aelod Seneddol dros Ynys Môn
2024 – presennol
Olynydd:
presennol

Dolenni allanol

golygu