Rhun ap Iorwerth
Gwleidydd a chyn-newyddiadurwr o Gymro yw Rhun ap Iorwerth (ganed 27 Awst 1972)[1] sy'n Aelod o'r Senedd dros Ynys Môn ers Awst 2013. Mae'n aelod o Plaid Cymru ac fe'i etholwyd i'r Senedd mewn is-etholiad yn dilyn ymddiswyddiad yr Aelod Cynulliad Ieuan Wyn Jones.[2]
Rhun ap Iorwerth AS | |
---|---|
![]() Rhun ap Iorwerth yn 2016 | |
Aelod o'r Senedd dros Ynys Môn | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 2 Awst 2013 | |
Rhagflaenwyd gan | Ieuan Wyn Jones |
Mwyafrif | 9,166 |
Manylion personol | |
Ganed | Tonteg, Pontypridd | 27 Awst 1972
Plaid gwleidyddol | Plaid Cymru |
Plant | 3 |
Cartref | Llangristiolus, Ynys Môn |
Proffesiwn | Newyddiadurwr |
Gwefan | Gwefan wleidyddol |
Bywyd cynnar ac addysgGolygu
Mynychodd Ysgol Rhyd-y-Main, Dolgellau am ychydig, cyn symyd i Ynys Môn a mynychu Ysgol Gynradd Llandegfan, cyn cael ei addysg uwchradd yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy.[3] Yna aeth i Brifysgol Caerdydd ble graddiodd yn y Gymraeg a Gwleidyddiaeth yn 1993. Roedd ei dad, Edward, yn brifathro ac yn rhan o'r ddeuawd 'Dafydd Iwan ac Edward' a 'Chwm Rhyd y Rhosyn'.
GyrfaGolygu
Ymunodd â BBC Cymru fel newyddiadurwr yn 1994. Gweithiodd fel gohebydd yn Westminster cyn dychwelyd i Gymru yn 1997. Yn 2001 fe'i penodwyd yn Brif Ohebydd Gwleidyddol BBC Cymru, yn gweithio ar deledu a radio yn Gymraeg a Saesneg. Yn ystod y cyfnod hwn cyflwynodd raglenni ac eitemau i The Politics Show Wales, Dragon's Eye, ampm, BBC Radio Wales, Good Morning Wales, 'Post Cyntaf', rhaglenni amser brecwast a rhaglenni wythnosol ar wleidyddiaeth y dydd gan gynnwys 'Dau o'r Bae' a Newyddion S4C.
Yn Ionawr 2014 fe'i enwyd yn un o Noddwyr ('Patron') Cronfa Betsi Cadwaladr, sef yr adain wirfoddol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
GwleidyddiaethGolygu
Ar 1 Awst 2013 etholwyd Rhun i gynrychioli Ynys Môn ar y Cynulliad, gyda thair gwaith y pleidleisiau a gafodd yr ail ymgeisydd (Llafur); derbyniodd 12,601 o bleidleisiau. Roedd hyn yn tanseilio breuddwyd Llafur i gael mwyafrif o aelodau yn Senedd y Cynulliad.
Dolenni allanolGolygu
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Cofnod Twitter ar ei ben-blwydd. Rhun ap Iorwerth (27 Awst 2012). Adalwyd ar 14 Ebrill 2016.
- ↑ Vaughan Roderick (2 Awst 2013). BBC News - Plaid's Anglesey win 'energising' for party, says Rhun ap Iorwerth. BBC. Adalwyd ar 2 Awst 2013.
- ↑ Elgan Hearn (30 Tachwedd 2011). Ysgol David Hughes hold a school "hawl i holi" meeting with local politicians. Daily Post. Adalwyd ar 2 Awst 2013.