Níamh Chinn Óir
Cymeriad ym mytholeg Iwerddon yw Níamh Chinn Óir, ffurf Gymraeg Nia Ben Aur. Mae'n ymddangos yng Nghylch Fionn fel merch i Manannán mac Lir, duw y môr. Syrth mewn cariad ag Oisín, mab Fionn mac Cumhaill, bardd mwyaf Iwerddon a rhyfelwr yn y Fianna. Mae Níamh yn ymddangos iddo ac yn mynd ag ef i wlad Tír na n-Óg. Genir mab iddynt o'r enw Oscar, a merch o'r enw Plor na mBan.
Wedi'r hyn sy'n ymddangos iddo ef yn dair blynedd, mae Oisín yn penderfynu dychwelyd i Iwerddon. Mewn gwirionedd mae 300 mlynedd wedi mynd heibio. Wrth roi benthyg ei cheffyl gwyn Embarr iddo, mae Níamh yn ei rybuddio i beidio a gadael i'w droed gyffwrdd y llawr. Fodd bynnag, mae Oisín yn syrthio i'r llawr wrth geisio helpu gweithwyr i godi carreg, ac mae'n troi yn hen ŵr ar ei union.
Defnyddiwyd y stori fel sail i gerdd Gymraeg gan Thomas Gwynn Jones ac i'r opera roc Gymraeg Nia Ben Aur.