Nadia Nazar

ymgyrchydd hinsawdd ac Americanes brodorol

Mae Nadia Nazar yn arlunydd 18 oed ac yn drefnydd yr ymgyrch cyfiawnder newid hinsawdd, sydd wedi'i lleoli yn Baltimore, Maryland. Hi yw cyd-sylfaenydd (gyda Jamie Margolin), cyfarwyddwr cydweithredol, a chyfarwyddwr celf y sefydliad hinsawdd Zero Hour, mudiad ieuenctid.

Nadia Nazar
Nazar yng Ngorffennaf 2019
DinasyddiaethBaner UDA UDA
Galwedigaethymgyrchydd hinsawdd Edit this on Wikidata

Ym Medi 2020 roedd hi'n ddisgybl mewn ysgol uwchradd ac yn gweithio tuag at weithredu newidiadau yn yr hinsawdd yn ei sir a'i chymuned. Hi oedd un o'r prif drefnwyr Streic Hinsawdd y dalaith ar 15 Mawrth a Streic Hinsawdd 20 Medi. Mae Nadia yn defnyddio celf i fynegi ei anfodlonrwydd am newid hinsawdd a cheisia godi ymwybyddiaeth o'r argyfwng hinsawdd. Dyluniodd logo Zero Hour, ac amryw o weithiau celf perthnasol, ac mae'n parhau i arwain yr ochr greadigol o Fudiad Hinsawdd yr Ieuenctid.[1]

Yn Hydref 2018, siaradodd Nadia ym Mhencadlys y Cenhedloedd Unedig am yr effaith y mae'r argyfwng hinsawdd yn ei chael ar ferched ledled y byd. Yn Chwefror 2019, siaradodd yn y Gyngres yng ngwrandawiad cyntaf Pwyllgor Adnoddau Naturiol y Tŷ ar newid hinsawdd yn y 116fed Gyngres.[2] Yn Ebrill 2021 roedd yn 18 oed.

Magwraeth golygu

Biolegydd morol yw mam Nazar, sy'n golygu iddi gael ei magu yn ymwybodol iawn o newid hinsawdd, a sut mae'r newid hwnnw'n niweidio anifeiliaid. Arweiniodd hynny iddi sylweddoli fod newid hinsawdd hefyd yn niweidio pobl.[3]

Zero Hour golygu

Ehangodd cwmpas Zero Hour i harneisio pŵer y cyfryngau cymdeithasol. Mae'r sefydliad yn eu defnyddio i ledaenu ymwybyddiaeth ac addysg ar sut mae hiliaeth, patriarchaeth, gwladychiaeth a chyfalafiaeth yn effeithio'r argyfwng hinsawdd mewn modd negyddol. Mae Nazar yn gwasanaethu fel y cyfarwyddwr gweithredol (2021) a'r cyfarwyddwr celf.

Gwobrau ac anrhydeddau golygu

Enwyd Nadia yn un o 25 o 'Ferched sy'n Newid y Byd' yn 2018 gan People Magazine.

Cyfeiriadau golygu

  1. people.com; adalwyd 28 Mai 2021.
  2. Gwefan ioes.ucla; adalwyd 28 Mai 2021.
  3. uk.movies.yahoo.com; adalwyd 28 Mai 2021.