Nandi
Llwyth yn Nwyrain Affrica sy'n perthyn i grŵp ethnig y Kalenjin yw'r Nandi. Trigai'n bennaf yng ngorllewin ucheldiroedd Cenia. Maent yn siarad tafodiaith Kalenjin, un o'r ieithoedd Nilo-Saharaidd.
Rhennir yn 17 o glaniau o natur dadlinachol ac allbriodasol, a chymdeithas gydraddol. Fel rheol ymarferid amlwreiciaeth. Carfanau oed yw'r prif grwpiau cymdeithasol: rhennir bywyd y gwryw yn saith dosbarth, tua 15 mlynedd yr un.[1] I brofi newid y llanc yn ddyn, rhoddir sgorpion i lawr ei gefn fel defod newid byd. Mae'n rhaid i'r llanc aros yn dawel ac yn llonydd; os yw'n crynu, mae'n bosib i'r sgorpion ei bigo a'i ladd. Maent yna'n tyfu drwy ddosbarthau'r rhyfelwyr. Mae'r dynion hŷn yn ffurfio cyngor lleol a chanddynt awdurdod gwleidyddol a barnwrol uchaf eu cymuned.
Amaethwyr yw'r Nandi'n bennaf, sy'n tyfu miled, indrawn ac iamau. Cedwir gwartheg am fwyd ac yn bris am briodferch.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Nandi (people). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 2 Rhagfyr 2016.