Ieithoedd Nilo-Saharaidd
Teulu ieithyddol o ieithoedd a siaredir yn bennaf yng nghanolbarth a gogledd-ddwyrain Affrica yw'r Ieithoedd Nilo-Saharaidd. Credir fod y teulu yn cynnwys tua 200 o ieithoedd, gyda chyfanswm o tua 35 miliwn o siaradwyr. Mae dosbarthiad y teulu yn ymestyn o Algeria a Mali yn y gogledd-orllewin hyd Benin, Nigeria, Swdan a Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo yn y de ac o'r Aifft hyd Cenia a Tansanïa (af eithrio Somalia) yn y dwyrain.
Prif ieithoedd
golygu- Luo (3.5 hyd 4 miliwn o siaradwyr), yn Cenia, dwyrain Wganda hyd Tansanïa, iaith y grŵp ethnig Luo.
- Kanuri (3.3 hyd 6 miliwn o siaradwyr), iaith y grŵp ethnig Kanuri, o Niger hyd ogledd-ddwyrain Nigeria.
- Dinka (1.4 hyd 2 filiwn o siaradwyr), iaith y grŵp ethnig Dinka yn ne Swdan.
- Lango (tua 1 miliwn o siardwyr), yng nghanolbarth Wganda.
- Nuer (805,000 o siaradwyr), iaith y grŵp ethnig Nuer, yn ne Swdan.