Un o ganghennau'r bobloedd Nilaidd sy'n byw yn Nwyrain Affrica yw'r Kalenjin sy'n cynnwys llwythau'r Kipsigis, Nandi, Pokot, Tugen, Keiyo, Marakwet, Sabaot, Terik, Endo ac Okiek. Maent yn siarad ieithoedd Nilotig deheuol.[1]

Cwt mewn pentref Kalenjin ger Nairobi, Cenia.

Trigai'r Kalenjin yng nghanolbarth gorllewin Cenia, gogledd Tansanïa, ac Wganda. Mudodd y Kalenjin i mewn i'r Dyffryn Hollt Mawr tua'r flwyddyn 1500. Yn ystod y 18g ehangodd tiriogaeth y Maasai gan wthio'r Kalenjin i'r ardal rhwng y Dyffryn Hollt a Llyn Fictoria.

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) "Nandi and Other Kalenjin Peoples" yn yr Encyclopedia of World Cultures (Gale, 1996). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 13 Rhagfyr 2016.