Nant Olwy

afon yn Sir Fynwy

Mae Nant Olwy yn llednant ar lan chwith Afon Wysg yn Sir Fynwy yn ne Cymru.

Nant Olwy
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Fynwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.67668°N 2.88629°W Edit this on Wikidata
Map

Mae'n codi o gydlifiad nifer o nentydd yng nghyffiniau Llan-soe gan gynnwys nentydd Llangofen, Penarth a Phontyrhydan. Mae'n llifo i'r gorllewin i Landenni, lle mae Nant y Wilcae o Raglan yn ymuno ag ef, yna i'r de-orllewin i ymuno â nant y Pil a Nant Llan-gwm-isaf.

Wrth ddynesu at ymyl tref Brynbuga nid yw’n ymuno ag Afon Wysg ond yn hytrach mae’n llifo i’r de, yn gyfochrog â’r brif afon am dros 3km cyn ymuno ag ef 750m i'r de o bentrefan Llanllywel. Hen Dywodfaen Coch yw bron y cyfan o dalgylch y nant.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. Brown, A.G.; Bassell, L.S.; Butzer, K.W (2011). Holocene sedimentation in a pericoastal river system, South Wales, UK in Geoarchaeology, Climate Change and Sustainability. Boulder, Colorado: The Geological Society of America. t. 95.