Natalia Ginzburg
Awdures o'r Eidal oedd Natalia Ginzburg (14 Gorffennaf 1916 - 7 Hydref 1991) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel nofelydd, dramodydd a gwleidydd. Themâu pwysicaf ei gwaith yw'r berthynas rhwng aelodau o deulu, gwleidyddiaeth yn ystod ac ar ôl y Blynyddoedd Ffasgaidd a'r Ail Ryfel Byd ac athroniaeth. Yn 1983 cafodd ei hethol i Senedd yr Eidal, gan gynrychioli Rhufain fel Aelod Annibynnol, ond bu am gyfnod yn aelod o Blaid Gomiwnyddol yr Eidal.
Natalia Ginzburg | |
---|---|
Ffugenw | Alessandra Tornimparte |
Ganwyd | Natalia Levi 14 Gorffennaf 1916 Palermo |
Bu farw | 7 Hydref 1991 Rhufain |
Dinasyddiaeth | Yr Eidal |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, gwleidydd, dramodydd |
Swydd | Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal, golygydd, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | La famiglia Manzoni, Family sayings |
Arddull | nofel, theatr |
Plaid Wleidyddol | Plaid Gomiwnyddol yr Eidal |
Tad | Giuseppe Levi |
Priod | Leone Ginzburg, Gabriele Baldini |
Plant | Carlo Ginzburg, Andrea Ginzburg |
Perthnasau | Lisa Ginzburg |
Llinach | Levi-Tanzi family |
Gwobr/au | Gwobr Strega, Gwobr Bagutta, Gwobr Charles Veillon yn yr Eidalaidd, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America |
Cyfieithwyd y rhan fwyaf o'i gwaith i'r Saesneg a'u cyhoeddi yn y Deyrnas Unedig a'r Unol Daleithiau.
Ganed Natalia Leviyn yn Palermo, Sisili ar 14 Gorffennaf 1916; bu farw yn Rhufain ac fe'i claddwyd ym mynwent Campo Verano, Rhufain. O 1919 ymlaen, treuliodd Ginzburg llawer o'i llencyndod gyda'i theulu yn Turin gan i'w thad gael ei benodi'n ddarlithydd ym Mhrifysgol Turin. Mae ei thad, Giuseppe Levi, yn hanesydd Eidalaidd adnabyddus, a aned i deulu Eidalaidd-Iddewig, a'i mam, Lidia Tanzi, yn Gatholig.
Bu Natalia Ginzburg yn briod i Leone Ginzburg ac yna i Gabriele Baldini ac roedd Carlo Ginzburg yn blentyn iddi.
Y llenor
golyguYmhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: La famiglia Manzoni a Ti ho sposato per allegria.[1][2][3][4][5][6][7]
- Rhai gweithiau
Nofelau a storiau byrion
golyguYma, ychwanegir y teitl Saesneg, pan fo'r llyfr wedi'i gyhoeddi yn yr iaith honno:
- La strada che va in città (1942) (The Road to the City, cyfieithwyd gan Frances Frenaye (1949)) - cyhoedddwyd yn gyntaf gan Alessandra Tornimparte
- È stato così (1947) (The Dry Heart, cyfieithwyd gan Frances Frenaye (1949))
- Tutti i nostri ieri (1952) (A Light for Fools / All our yesterdays, cyfieithwyd gan Angus Davidson (1985))
- Valentino (1957) (Valentino, cyfieithwyd gan Avril Bardoni (1987))
- Sagittario (1957) (Sagittarius, cyfieithwyd gan Avril Bardoni, (1987))
- Le voci della sera (1961) (Voices in the Evening, cyfieithwyd gan D.M.Low (1963))
- Lessico famigliare (1963) (Family sayings, cyfieithwyd gan D.M.Low (1963); The Things We Used to Say, cyfieithwyd gan Judith Woolf (1977))
- Caro Michele (1973) (No Way, cyfieithwyd gan Sheila Cudahy (1974); Dear Michael, cyfieithwyd gan Sheila Cudahy (1975)) - ysbrydoliaeth i'r ffilm Caro Michele (1976)
- Famiglia (1977) (Family, cyfieithwyd gan Beryl Stockman (1988))
- La famiglia Manzoni (1983) (The Manzoni Family, cyfieithwyd gan Marie Evans (1987))
- La città e la casa (1984) (The City and the House, cyfieithwyd gan Dick Davis (1986))
Traethodau
golygu- Le piccole virtù (1962) (The Little Virtues, cyfieithwyd gan Dick Davis (1985))
- Mai devi domandarmi (1970) (Never must you ask me, cyfieithwyd gan Isabel Quigly (1970))
- Vita immaginaria (1974) (A Place to Live: And Other Selected Essays, cyfieithwyd gan Lynne Sharon Schwartz (2002))
- Serena Cruz o la vera giustizia (1990) (Serena Cruz, or The Meaning of True Justice, cyfieithwyd gan Lynn Sharon Schwartz (2002))
- È difficile parlare di sé (1999) (It's Hard to Talk about Yourself, cyfieithwyd gan Louise Quirke (2003))
Dramâu
golygu- Ti ho sposato per allegria (1966) (I Married You for Fun, cyfieithwyd gan Henry Reed (1969); I Married You to Cheer Myself Up, cyfieithwyd gan Wendell Ricketts (2008))
- Fragola e panna (1966) (The Strawberry Ice, cyfieithwyd gan Henry Reed (1973); Strawberry and Cream, cyfieithwyd gan Wendell Ricketts (2008))
- La segretaria (1967) (The Secretary, cyfieithwyd gan Wendell Ricketts (2008))
- L'inserzione (1968) (The Advertisement, cyfieithwyd gan Henry Reed (1968))
- Mai devi domandarmi (1970) (Never Must You Ask Me, cyfieithwyd gan Isabel Quigly (1973))
- La porta sbagliata (1968) (The Wrong Door, cyfieithwyd gan Wendell Ricketts (2008))
- Paese di mare (1968) (A Town by the Sea, cyfieithwyd gan Wendell Ricketts (2008))
- Dialogo (1970) (Duologue, cyfieithwyd gan Henry Reed (1977); Dialogue, cyfieithwyd gan Wendell Ricketts (2008))
- La parrucca (1973) (The Wig, cyfieithwyd gan Henry Reed (1976); Jen Wienstein (2000); Wendell Ricketts (2008))
- L'intervista (1988) (The Interview, cyfieithwyd gan Wendell Ricketts (2008))
Aelodaeth
golyguBu'n aelod o Academi Celf a Gwyddoniaeth America am rai blynyddoedd.
Gwobrau
golygu- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Strega (1963), Gwobr Bagutta (1984), Gwobr Charles Veillon yn yr Eidalaidd (1952), Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America .
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Disgrifiwyd yn: https://link.springer.com/chapter/10.1007/978-3-476-03702-2_135. dyddiad cyrchiad: 31 Gorffennaf 2022.
- ↑ Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 16 Gorffennaf 2024.
- ↑ Dyddiad geni: Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 14 Awst 2015. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Natalia Ginzburg". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Natalia Ginzburg". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Natalia Ginzburg". "Natalia Ginzburg". "Natalia Ginzburg". "Natalia Ginzburg". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Dyddiad marw: "Natalia Ginzburg". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Natalia Ginzburg". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Man claddu: https://www.findagrave.com/memorial/93257492/. dynodwr Find a Grave (bedd): 93257492.
- ↑ Crefydd: "LEVI, Natalia". Dizionario Biografico degli Italiani. 2005. Cyrchwyd 1 Medi 2022.