Mae Natamycin yn feddyginiaeth gwrthffyngol a ddefnyddir i drin heintiau ffwngaidd o gwmpas y llygad[1]. Mae'r rhain yn cynnwys heintiau'r amrantau, cyfbilennau, a'r gornbilen. Fe'i gweinir fel diferion llygad. Mae Natamycin hefyd yn cael ei ddefnyddio yn y diwydiant bwyd fel ychwanegyn cadwraethol.

Natamycin
Enghraifft o'r canlynolmath o endid cemegol Edit this on Wikidata
Mathpolyene macrolide Edit this on Wikidata
Màs665.305 uned Dalton Edit this on Wikidata
Fformiwla gemegolC₃₃h₄₇no₁₃ edit this on wikidata
Enw WHONatamycin edit this on wikidata
Clefydau i'w trinLlid y cyfbilen, cocsidioidomycosis, asbergilosis, clefyd heintiol ffyngaidd, blepharitis, microsporidiosis, blastomycosis, candidïasis, cryptococosis, sborotrichosis, histoplasmosis, llid y cornea, llid y cornea, llid y cyfbilen, blepharitis edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'n perthyn i deuluoedd macrolid a pholyin o feddyginiaethau. Mae'n lladd ffyngau trwy newid eu cellbilenni

Darganfuwyd Natamycin yn 1955. Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd; er hynny nid oes trwydded i'w defnyddio gan y GIG yn y DU[2].

Defnydd golygu

Meddygol golygu

Defnyddir natamycin i drin heintiau ffwngaidd, gan gynnwys Candida, Aspergillus, Cephalosporium, Fusarium, a Penicillium. Fe'i gweinir yn argroenol fel hufen, mewn diferion llygad, neu (ar gyfer heintiau'r geg) fel losinen. Mae Natamycin hefyd yn cael ei rhagnodi i drin heintiau burum a llindag y geg.

Bwyd golygu

Mae natamycin wedi cael ei ddefnyddio ers peth amser yn y diwydiant bwyd i geisio rhwystro tyfiant ffwngaidd ar gynhyrchion llaeth a bwydydd eraill.

Yr Unol Daleithiau golygu

Yn yr Unol Daleithiau caiff natamycin ei ychwanegu'n gyffredin i mewn i gynhyrchion megis caws hufen, caws bwthyn, hufen sur, iogwrt, carpion caws, sleisys caws, a chymysgeddau salad wedi'u pecynnu.

Yr Undeb Ewropeaidd golygu

Yn yr Undeb Ewropeaidd mae gan natamycin yr E Rif ychwanegyn bwyd - E235[3]. Caniateir ei ddefnyddio yn yr UE fel ychwanegyn cadwraethol arwyneb, i rwystro ffwng datblygu ar groen rhai cynhyrchion selsig a chaws, lle na fydd y croen yn cael ei bwyta fel arfer.

Prydain wedi Brexit golygu

Pwy a wyr?

Cyfeiriadau golygu

  1. "Natamycin". The American Society of Health-System Pharmacists. Cyrchwyd 26 Ionawr 2018.
  2. South Tees Hospitals NHS Foundation Trust - Trust Formulary Natamycin 5% eye drops, Restricted Drug; Restricted unlicensed; Unlicensed product[dolen marw] adalwyd 26 Ionawr 2018
  3. EFSA The use of natamycin as a food additive <adalwyd 26 Ionawr 2018


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!