Nathan Rogers
tirfeddianwr Cymreig
Awdur gwaith topograffig Cymreig oedd Nathan Rogers (30 Mai 1639 - c. 1708). Roedd yn frodor o blwyf Llanfaches, Sir Fynwy.[1]
Nathan Rogers | |
---|---|
Ganwyd | 30 Mai 1638 Llanfaches |
Bu farw | 1708 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | llenor |
Llinach | Teulu Vaughan, Pant Glas |
Gyrfa
golyguGaned Nathan Rogers yn 1639, yn fab i sgweier lleol a oedd yn gapten ym myddin Oliver Cromwell yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr.[1]
Tua diwedd ei oes, cyhoeddodd y llyfr Memoirs of Monmouth-Shire yn 1708. Yn ogystal â disgrifiad o hanes a thirwedd Sir Fynwy, ceir atodiad sy'n annog uchelwyr ac arweinwyr y sir i geisio adfer eu hawliau yng Nghoed Gwent, hawliau a gipwyd drwy ddichell gan Ardalydd Caerwrangon a Dug Beaufort.[1]
Llyfryddiaeth
golygu- Memoirs of Monmouth-Shire (Llundain, 1708). Adargraffwyd yn 1984.