Nawaf Al-Ahmad Al-Jaber Al-Sabah

Uchelwr Coweitaidd o Dŷ Sabah oedd Nawaf Al-Ahmad Al-Jaber Al-Sabah (Arabeg: نَوَّاف الأَحمَد الْجَابِر الصَّباح‎; 25 Mehefin 193716 Rhagfyr 2023) a deyrnasai yn Emir Coweit o 29 Medi 2020 hyd at ei farwolaeth.

Nawaf Al-Ahmad Al-Jaber Al-Sabah
Nawaf Al-Ahmad Al-Jaber Al-Sabah yn 2018, pan oedd yn dywysog coronog.
Ganwyd25 Mehefin 1937 Edit this on Wikidata
Dinas Coweit Edit this on Wikidata
Bu farw16 Rhagfyr 2023 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCoweit Edit this on Wikidata
SwyddMinister of Interior, Minister of Interior Edit this on Wikidata
TadAhmad Al-Jaber Al-Sabah Edit this on Wikidata
LlinachHouse of Al Sabah Edit this on Wikidata
Gwobr/auGran Cruz de la Orden del Mérito Civil, Grand Cross of the Order of the Liberator General San Martin, Grand Collar Of The State Of Palestine Edit this on Wikidata

Ganed y Sieic Nawaf al-Ahmad al-Jaber al-Sabah yn Ninas Coweit, yn fab i'r Sieic Ahmad Al-Jaber Al-Sabah, a reolodd Sieiciaeth Coweit o 1921 hyd at ei farwolaeth ym 1950. Derbyniodd ei addysg yng Nghoweit ac yn Lloegr. Priododd Nawaf â Sharifa Sulaiman al-Jasem al-Ghanim, a chawsant bedwar mab—Ahmad, Faisal, Abdullah, a Salem—ac un ferch, Sheikha al-Sabah.[1]

Ym 1962, yn 25 oed, penodwyd Nawaf yn llywodraethwr Hawalli, gan gychwyn ar ei yrfa lywodraethol. Daeth yn weinidog mewnwladol Coweit ym 1978 ac yn weinidog amddiffyn ym 1988. Yn sgil goresgyniad yr emiriaeth gan Irac ym 1990, cafodd Nawaf ei ddiraddio i swydd gweinidog llafur a materion cymdeithasol, a daeth yn ddirprwy bennaeth ar Warchodlu Cenedlaethol Coweit. Dychwelodd i gabinet Coweit yn 2003 fel dirprwy brif weinidog a gweinidog mewnwladol.[1]

Wedi i'w hanner brawd Sabah esgyn i'r orsedd yn 2006, penodwyd Nawaf yn dywysog coronog, ac felly'n olynydd dynodedig yr emir. Daeth Nawaf yn Emir Coweit yn sgil marwolaeth Sabah yn 91 oed yn 2020. Bu farw Nawaf yn 86 oed, a fe'i olynwyd gan ei hanner brawd, Mishal.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Alan Cowell, "Sheikh Nawaf, Emir of Kuwait, Dies at 86", The New York Times (16 Rhagfyr 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 16 Rhagfyr 2023.