Dyfais yw nebiwleiddiwr sy’n eich helpu chi i gymryd eich meddyginiaeth. Mae’n newid meddyginiaeth sydd ar ffurf hylif i fod yn anwedd mân. Yna rydych chi’n anadlu’r anwedd i mewn drwy fasg neu ddarn yn y geg. Mae amryw o fathau gwahanol o nebiwleiddwyr ar gael, fel nebiwleiddwyr jet a nebiwleiddwyr uwchsonig. Gall nebiwleiddwyr uwchsonig fod yn ddrud ac yn aml ni chânt eu defnyddio tu allan i ysbytai.

Nebiwleiddiwr
Mathmedical device, nebulizers and vaporizers, sprayer Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Nebiwleiddiwr mewn defnydd yn ysbyty

Defnydd meddygol golygu

Nebiwleiddwyr yw’r ffordd orau weithiau i roi dos o feddyginiaeth i rywun sy’n cael trafferth anadlu. Felly caiff nebiwleiddwyr fel arfer eu defnyddio mewn sefyllfaoedd brys i roi dos uchel o feddyginiaeth. Maent hefyd yn ffordd o roi cyffuriau i bobl sy’n methu defnyddio dyfais arall, fel plant ifanc iawn.

Mae modd rhoi nifer o wahanol feddyginiaethau gan ddefnyddio nebiwleiddiwr, gan gynnwys hydoddiannau dŵr hallt a gwrthfiotigau. Caiff meddyginiaeth fel arfer ei rhoi drwy fasg, ond mae rhai sgil effeithiau os bydd y feddyginiaeth yn mynd i mewn i’r llygaid, felly dim ond drwy roi darn yn y geg y gellir ei rhoi yn ddiogel.

  • 'Clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint. Nid oes tystiolaeth bod nebiwleiddwyr yn fwy effeithiol am roi cyffuriau nag anadlwyr sy’n cael eu dal yn eich llaw fel rhan o’ch triniaeth arferol. Ond efallai byddwch yn defnyddio nebiwleiddiwr yn yr ysbyty os gewch chi bwl drwg.
  • Bronciectasis. Gellir defnyddio nebiwleiddwyr i roi meddyginiaethau i helpu leihau tewdra eich fflem fel ei bod hi’n haws i chi besychu’r fflem, a rhoi gwrthfiotigau os gewch chi haint bacterol.
  • Ffibrosis systig. Defnyddir nebiwleiddwyr i roi meddyginiaethau i reoli faint o fwcws sy’n hel a symptomau eraill os oes gennych chi ffibrosis systig.

Gellir defnyddio nebiwleiddwyr mewn gofal lliniarol ac i roi cyffuriau i blant ifanc iawn, fel plant sydd â bronciolitis feirysol.


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol yn unig. Allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r British Lung Foundation.

Am wybodaeth lawn gweler yr erthygl wreiddiol gan y British Lung Foundation neu am driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!