Mae bronciectasis yn gyflwr hirdymor sy’n effeithio'r llwybrau anadlu yn yr ysgyfaint. Pan fo person yn anadlu, mae aer yn cael ei gario i mewn i’w ysgyfaint trwy ei lwybrau anadlu, sy’n cael eu galw’n "bronci" hefyd. Mae’r bronci’n rhannu eto ac eto yn filoedd o lwybrau anadlu llai o’r enw bronciolau. Mae'r llwybrau anadlu’n cynnwys chwarennau bychain sy’n cynhyrchu ychydig bach o fwcws. Mae mwcws yn helpu i gadw eich llwybrau anadlu’n llaith, ac yndal y llwch a’r germau yr ydych yn eu hanadlu i mewn. Mae’r mwcws yn cael ei symud gan flew bychain, o’r enw cilia, sy’n leinio’r llwybrau anadlu. Yn achos bronciectasis, mae eich llwybrau anadlu wedi’u creithio a’u llidio efo mwcws tew, o’r enw fflem neu sbwtwm. Mae’r llwybrau anadlu yn lledu ac nid ydynt yn gallu clirio eu hunain yn iawn. Mae hyn yn golygu bod mwcws yn cronni ac mae’r llwybrau anadlu yn gallu cael eu heintio gan facteria. Mae pocedi yn y llwybrau anadlu yn golygu bod mwcws yn cael ei ddal ac debygol o droi’n heintus.

Bronciectasis
Enghraifft o'r canlynolclefyd prin, dosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathbronchospasm, clefyd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Bronciectasis
Enghraifft o'r canlynolclefyd prin, dosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathbronchospasm, clefyd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Weithiau, caiff bronciectasis ei alw’n bronciectasis nad yw’n ffeibrosis systig oherwydd mae cyflwr gwahanol o’r enw ffeibrosis systig. Gall pobl sydd â ffeibrosis systig gael symptomau tebyg ar eu hysgyfaint, yn debyg i symptomau bronciectasis, ond mae’r triniaethau a’r rhagolygon yn wahanol.

Symptomau golygu

Symptom mwyaf cyffredin bronciectasis yw pesychu sbwtwm, sydd weithiau’n cael ei alw’n fflem. Mae faint yn amrywio. I bobl sydd â bronciectasis mwy difrifol, gall fod yn dipyn, er enghraifft pot sbwtwm llawn mewn diwrnod. Mae’n gyffredin iawn i chi gael heintiau yn aml ar eich brest.

Dyma rai symptomau eraill:

  • Teimlo’n flinedig iawn neu’n cael hi’n anodd canolbwyntio
  • Diffyg anadl: trafferth anadlu neu deimlo’n fyr eich gwynt
  • Problemau efo’r sinysau
  • Anymataliaeth wrth besychu, neu’r bledren yn gollwng
  • Bod yn bryderus neu’n isel eich ysbryd.

Dyma rai symptomau llai cyffredin:

  • pesychu gwaed
  • poen yn y frest
  • poen yn y cymalau

Achosion golygu

 
Bronciectasis

I ryw hanner o bobl sy’n cael diagnosis o bronciectasis, nid oes achos amlwg. Gelwir hyn yn bronciectasis idiopathig. Dyma ambell salwch sy’n gysylltiedig â bronciectasis:

  • Wedi cael haint difrifol ar y frest fel niwmonia, y pâs neu dwbercwlosis (TB) yn y gorffennol
  • Clefyd llid y coluddyn (IBS), gelwir hefyd yn llid briwiol y coluddyn a chlefyd Crohn’s
  • Diffygion yn y system imiwnedd
  • Anhwylderau arthritis fel arthritis gwynegol (rheumatoid)
  • Problem efo strwythur neu swyddogaeth arferol yr ysgyfaint, fel dyscinesia ciliaraidd cynradd

Dyma rai achosion eraill:

  • Ymateb alergaidd difrifol i ffyngau neu lwydni fel asbergilws
  • Adlif o’r stumog
  • Y llwybr anadlu wedi blocio, gan gneuen ddaear er enghraifft

Weithiau, bydd pobl sydd wedi byw efo clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) neu asthma am lawer o flynyddoedd, yn datblygu bronciectasis.

Diagnosis golygu

Cewch rai profion, sy’n debygol o gynnwys:

  • Pelydr-X ar eich brest
  • Sgan tomograffeg gyfrifiadurol (CT). Mae sgan CT yn defnyddio peiriant pelydr-x arbennig i edrych yn fanylach ar eich ysgyfaint
  • Profion ar eich sbwtwm i weld a oes unrhyw facteria ynddo
  • Profion gwaed
  • Profion ar yr ysgyfaint

Weithiau, bydd eich gweithiwr iechyd yn awgrymu broncosgopi – defnyddio camera mewn tiwb cul – i edrych yn eich ysgyfaint a chymryd samplau.Weithiau, cewch ragor o brofion, gan gynnwys profion gwaed genetig, i geisio gweld pam bod y cyflwr wedi datblygu.

Prognosis golygu

Mae bronciectasis yn gyflwr hirdymor. Gyda’r cyflwr, efallai y cewch chi haint ar y frest dro ar ôl tro. Mae triniaethau newydd yn ceisio lleihau nifer yr heintiau hyn, a pha mor ddifrifol ydynt. Ond, mae rhai pobl yn fwy tueddol o gael heintiau mwy difrifol, neu heintiau yn amlach. Gyda’r systemau sgorio newydd ar gyfer bronciectasis, gall meddygon mesur y risg i unigolion. I’r rhan fwyaf o bobl sy’n cael diagnosis o bronciectasis, mae ganddynt ddisgwyliad oes normal ac mae’r driniaeth wedi’i theilwro i’w hanghenion. Mae rhai oedolion sydd â’r cyflwr wedi datblygu symptomau pan oedden nhw’n blant, ac yn byw gyda’r cyflwr am lawer o flynyddoedd. Efallai bod gan rai pobl, sydd â bronciectasis difrifol iawn, ddisgwyliad oes byrrach.

Cyfeiriadau golygu


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol yn unig. Allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r British Lung Foundation.

Am wybodaeth lawn gweler yr erthygl wreiddiol gan y British Lung Foundation neu am driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!